Gaza: Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i osod sancsiynau ar Israel
'Mae gan y DU gyfrifoldeb moesol a chyfreithiol i sicrhau bod Israel yn cydymffurfio â chyfraith ryngwladol.' - Ben Lake AS
Heddiw (dydd Mawrth 26 Awst) mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i osod nifer o sancsiynau ar Israel er mwyn rhoi pwysau arnynt i gydymffurfio â chyfraith ryngwladol.
Mae Plaid Cymru eisoes wedi galw am gydnabyddiaeth ddiamod o Balesteina ar unwaith yn ogystal â rhoi diwedd ar werthiant arfau i Israel.
Fodd bynnag, dywedodd Llefarydd Materion Tramor y blaid, Ben Lake AS, fod angen i Lywodraeth y DU weithredu o ddifrif gan osod sancsiynau economaidd ar Israel.
Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i:
- Roi diwedd ar gytundeb masnach presennol y DU gydag Israel
- Ddod â chynllun 2030 am bartneriaeth agosach rhwng y DU ac Israel i ben
- Osod sancsiynau ar bob unigolyn gaiff ei amau o dorri cyfraith ryngwladol
- Wahardd mewnforio nwyddau o aneddiadau anghyfreithlon Israel ym Mhalesteina
Dywedodd Mr Lake fod rhaid atal cytundebau masnach sy'n rhoi triniaeth ffafriol i Israel yn ogystal ag atal y cynllun 2030 am bartneriaeth agosach rhwng y DU ac Israel - galwad sy'n cael ei chefnogi gan arbenigwyr cyfreithiol.
Er bod Ysgrifennydd Tramor y DU eisoes wedi cyhoeddi y byddai sancsiynau'n cael eu gosod ar ddau weinidog o Israel ynghyd â rhai ymsefydlwyr o Israel, mae Plaid Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i rewi asedau a gwaharddiadau teithio ar uwch aelodau o Lywodraeth a byddin Israel, sy'n gyfrifol am annog hil-laddiad yn Gaza ac am gynnal a gwthio'r gwladychu o Balesteina gan Israel yn ei flaen.
Ddydd Sul (24 Awst) lladdodd ymosodiad dwbl gan Israel ar ysbyty yn Gaza 20 o bobl, gan gynnwys newyddiadurwyr a gweithwyr iechyd.
Ddydd Gwener, galwodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y newyn a gadarnhawyd yn Ninas Gaza a'r ardaloedd cyfagos yn "fethiant gan ddynoliaeth."
Disgrifiodd Antonio Guterres yr argyfwng fel "trychineb a grewyd gan ddyn" ar ôl i gorff a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig godi'r sefyllfa mewn rhai rhannau o'r tiriogaeth i Gam 5 - y lefel uchaf o ansicrwydd bwyd.