Dylai Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd am y defnydd o fygydau wyneb pan fydd pobl allan yn gyhoeddus, dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC.

Heddiw, argymhellodd llywodraeth yr Alban y dylai pobl orchuddio eu hwynebau pan fyddant mewn rhai mannau cyhoeddus caeedig – fel siopau a chludiant cyhoeddus.

Gan bwysleisio’r angen i’r cyhoedd barhau i aros gartref i achub bywydau, dywedodd Mr ap Iorwerth, mewn achosion lle nad oedd modd osgoi bod mewn mannau caeedig, megis mewn siopau neu ar gludiant cyhoeddus, fod angen i bobl wybod yn union beth yw’r ffordd orau i’w hamddiffyn eu hunain.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd cysgodol fod tystiolaeth y gallai gorchuddio wynebau helpu i “leihau’r risg o drosglwyddo rhwng cludwyr nad ydynt yn arddangos symptomau”.

Ychwanegodd Mr ap Iorwerth na fyddai modd i ni lacio cyfyngiadau cyn i ni fod yn hyderus fod llywodraethau yn “cymryd yr agwedd gywir at warchod y cyhoedd”.

Dywedodd Downing Street fod gweinidogion y DG yn ystyried y dystiolaeth wyddonol dros gyflwyno cyngor tebyg.

Bydd mygydau wyneb yn orfodol ar gludiant cyhoeddus yn yr Almaen, ac mewn archfarchnadoedd a fferyllfeydd yn Awstria, tra bod yn rhaid i drigolion Lombardy yn yr Eidal orchuddio eu trwynau a’u cegau pan fyddant y tu allan. Mae llywodraeth Ffrainc hefyd yn bwriadu rhoi mygydau i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC,

“Bydd y math o dystiolaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth yr Alban am wisgo mygydau wyneb mewn mannau cyhoeddus caeedig ar gael i Lywodraeth Cymru hefyd.

“Rhaid i bobl barhau i aros yn eu cartrefi i arbed bywydau a chadw at y cyfyngiadau a’r canllawiau presennol. Fodd bynnag, fe fydd adegau pan fydd hynny’n amhosib – pan orfodir pobl i fynd i fannau caeedig fel siopau neu gludiant cyhoeddus.

“Dan yr amgylchiadau hynny, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir am y defnydd o orchudd wyneb i warchod y bobl o’u cwmpas – nid mygydau o safon feddygol, ond gorchuddion a allai helpu i leihau’r risg o drosglwyddo rhwng cludwyr nad ydynt yn arddangos symptomau. Rwy’n gweld tystiolaeth gynyddol y GALLANT fod yn llesol, a buaswn yn cefnogi canllawiau i’r perwyl hwnnw.

“Allwn ni ddim hyd yn oed sôn am lacio cyfyngiadau cyn i ni fod yn hyderus fod llywodraethau yn cymryd yr agwedd iawn at warchod y cyhoedd – mae hynny’n cynnwys profi, olrhain ac ynysu, a rhoi’r canllawiau mwyaf synhwyrol ar fater gorchuddion wyneb.