Swyddi
Swydd Wag: Gweinyddwr Swyddfa
Lleoliad: Pencadlys Plaid Cymru, Caerdydd
Oriau: Llawn amser (37 awr)
Cyflog: Band 3 (£26,345 - £33,873)
Diben y swydd: Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am helpu i gynnal gweithgarwch swyddfa effeithlon trwy ymdrin â thasgau gweinyddol a chlerigol arferol. Mae'r rôl fel arfer yn cynnwys cydlynu cyfathrebu, rheoli dogfennaeth a chefnogi staff gydag anghenion gweithredol o ddydd i ddydd.
Dyddiad cau: 12pm, dydd Llun 27 Gorffennaf 2026
Ceisiadau: Gyrru'r ffurflen gais wedi ei llenwi i [email protected]
Swydd Wag: Cydlynydd Digwyddiadau
Lleoliad: Pencadlys Plaid Cymru, Caerdydd
Oriau: Llawn amser (37 awr)
Cyflog: Band 2 (£33,233 - £42,727)
Diben y swydd: Dan oruchwyliaeth y Pennaeth Polisi a’r uwch-dîm rheoli, bydd deiliad y swydd yn cydlynu trefniadaeth cynadleddau a digwyddiadau eraill y Blaid, yn trefnu digwyddiadau codi arian, yn ogystal â rheoli presenoldeb y Blaid mewn digwyddiadau allanol cenedlaethol fel yr Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol. Bydd y rôl yn golygu ymwneud yn agos â phartneriaid a gweithio’n rheolaidd ar draws timau ym mhencadlys y Blaid er mwyn sicrhau y cyflwynir y digwyddiadau i safon broffesiynol.
Dyddiad cau: 12pm, dydd Llun 27 Gorffennaf 2026
Ceisiadau: Gyrru'r ffurflen gais wedi ei llenwi i [email protected]
Swydd Wag: Swyddog Cyfathrebu
Lleoliad: Pencadlys Plaid Cymru, Caerdydd
Oriau: Llawn amser (37 awr)
Cyflog: Band 2 (£33,233 - £42,727)
Diben y swydd: Bydd y Swyddog Cyfathrebu yn cefnogi’r ddarpariaeth strategaeth gyfathrebu Plaid Cymru, gan helpu i gyflwyno neges y blaid yn glir, yn greadigol ac yn gyson ar draws sianeli digidol, mewnol a’r cyfryngau. Gan weithio dan y Pennaeth Strategaeth Wleidyddol a Chyfathrebu, byddwch yn helpu i gyfleu negeseuon Plaid Cymru mewn ffordd glir, ddeniadol sy’n adlewyrchu ei gwerthoedd ac sy’n apelio at bleidleiswyr, yn cryfhau proffil y blaid, ac yn cefnogi ffrydiau gwaith ehangach gan gynnwys ymgyrchoedd ac aelodaeth.
Byddwch yn gyfrifol am greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys fideos a graffeg byrion, cefnogi cyfathrebu mewnol, a helpu gyda gweithgaredd yn ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau. Dyma rôl yn y Tîm Cyfathrebu, fyddai’n addas i rywun a greddf ddigidol gref, sgiliau ysgrifennu da, ymwybyddiaeth wleidyddol, ac ymrwymiad i werthoedd Plaid Cymru.
Dyddiad cau: 12pm, dydd Mercher 5 Awst 2026
Ceisiadau: Gyrru'r ffurflen gais wedi ei llenwi i [email protected]
Rydym o hyd yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein hymgyrchoedd. Cliciwch yma er mwyn gwirfoddoli.