Plaid Cymru yn amlinellu'r hyn sydd angen ei wneud i gadw ein lleoliadau addysgol yn ddiogel

Mae angen nifer o fesurau cymorth a mesurau diogelwch i fynd i'r afael â thystiolaeth newydd bod gan ysgolion ran fwy blaenllaw i'w chwarae mewn trosglwyddo cymunedol nag a gredir yn flaenorol, yn ol Plaid Cymru.

Dengys gwybodaeth yn adolygiad diweddar y Grŵp Cynghori Technegol am lefelau uwch o haint mewn ysgolion, gan gynnwys rhai asymptomatig, a bod plant yn tueddu i fod y cyntaf ar yr aelwyd i gael eu heintio. 

Dywedodd Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, bod angen diweddaru'r mesurau diogelwch a roddwyd ar waith ym mis Mehefin o ganlyniad i'r dystiolaeth newydd “ar fyrder.”

Dywedodd Ms Gwenllian bod angen cymorth ychwanegol - yn benodol yn yr ardaloedd hynny o gyfraddau heintio uchel wedi gyplysu a rhai sydd a niferoedd uchel o ddisgyblion yn hunan-ynysu oherwydd achosion o Covid-19 mewn ysgolion.

Byddai mesurau ‘Cadw Ysgolion yn Ddiogel’ Plaid Cymru yn cwmpasu:

  1. Rhaglenni profi asymptomatig torfol mewn ysgolion a cholegau
  2. Staff sy'n glinigol fregus, y mae'n rhaid eu cefnogi i weithio o gartref
  3. Cymorth ariannol ychwanegol i ddelio â'r rhaniad digidol
  4. Athrawon ychwanegol ac athrawon cyflenwi ychwanegol
  5. Yr angen am ganllawiau clir ar awyru

Mae Ms Gwenllian wedi gofyn i'r llywodraeth ystyried os fetho popeth arall – yn enwedig ar gyfer ardaloedd lle mae'n rhaid i ysgolion aros ar agor – cynnig ar gyfer presenoldeb ysbeidiol carfannau o fyfyrwyr yn yr ysgol ar sail un wythnos neu bythefnos mewn ac yna un allan.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru Siân Gwenllian AS,

“Mae mesurau 'Cadw Ysgolion yn Ddiogel' Plaid Cymru yn mynd i'r afael â'r mater uniongyrchol o'n blaenau – bod gan ysgolion ran fwy i'w chwarae wrth drosglwyddo'r gymuned nag a gredir yn flaenorol.

“Roedd y mecanweithiau diogelwch a roddwyd ar waith yn ein hysgolion yn ôl ym mis Mehefin yn seiliedig ar dybiaeth nad oedd gan blant rôl i'w chwarae wrth drosglwyddo'r feirws – rydym bellach yn gwybod bod hyn yn ffug, ac felly mae'n rhaid adolygu'r mesurau diogelwch ym mhob lleoliad addysgol.

“Mae'r pecyn 'Cadw Ysgolion yn Ddiogel' rwyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o'r mesurau y mae angen mynd i'r afael â hwy mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill i gadw myfyrwyr a staff mor ddiogel â phosibl.

“Mae hefyd yn mynd i'r afael â'r angen i gefnogi myfyrwyr y mae eu haddysg yn cael ei tarfu arno fwyaf, drwy gyflogi athrawon ychwanegol a defnyddio athrawon cyflenwi i’w llawn botensial i gymryd rhan yn y dysgu cyfunol sydd ei angen mewn llawer o ysgolion.

“Lle nad yw'n ddiogel cadw ysgolion ar agor, rhaid i ddysgu barhau o bell i safon uchel. Rhaid i'r Llywodraeth sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr yn cael ei adael ar ôl, a bod prosesau ar waith i sicrhau bod cyswllt yn cael ei gynnal gyda phob disgybl pan fydd adre o’r ysgol. Mae hynny'n dechrau gyda monitro a mesur y rhaniad digidol yn ddigonol.

“Mae llawer o gamau y gallai ac y dylai'r llywodraeth eu cymryd i'n harwain yn nes at y nod hwn o fwy o leoliadau addysgol sy'n ddiogel rhag Covid. Mae Plaid Cymru wedi dweud beth mae'n credu sydd ei angen mewn ysgolion – nawr mae drosodd i’r lywodraeth.”