Mae Plaid Cymru yn addo i wastad sefyll cornel Cymru os ydynt cael eu hethol i lywodraeth

Mae Plaid Cymru wedi dweud nad yw Llafur bellach yn medru disgrifio’i hun fel ‘y blaid datganoli’ yn dilyn nodyn y Prif Weinidog oedd yn dangos parodrwydd i ochrgamu’r Senedd a Llywodraeth Cymru.

Mae nodyn y Prif Weinidog, a ddaeth i sylw Plaid Cymru, yn dweud: “dylen fod yn hyderus yn ein gallu i gyflawni’n uniongyrchol yn y gwledydd hynny, gan gynnwys trwy wariant uniongyrchol, hyd yn oed pan fod llywodraethau datganoledig yn gallu gwrthwynebu hyn.”

Ymhen dadl Plaid Cymru yn y Senedd ar ddydd Mercher (18 Mawrth 2026), mae aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Heledd Fychan, wedi beirniadu’r Prif Weinidog am fethu i herio sut mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ymdrin â Chymru pan ofynnwyd yn ystod sesiwn craffu ar 13 Mawrth 2026.

Mewn ymateb i’r nodyn, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnig yn galw ar y Senedd i ddatgan yn glir ni ddylai Llywodraeth y DU gwneud penderfyniadau gwariant yng Nghymru pan fydd Llywodraeth Cymru yn eu gwrthwynebu. Mae Llafur wedi diwygio’r cynnig sydd yn golygu y bydden nhw’n pleidleisio yn erbyn galwad Plaid Cymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid, Diwylliant a’r Gymraeg, Heledd Fychan AS fod Llafur yn blaenoriaethu cadw eu perthynas â San Steffan dros sefyll i fyny dros Gymru, ac mai dim ond Plaid Cymru fydd yn gyson yn amddiffyn Cymru.

Meddai Heledd Fychan AS:

“Mae’r nodyn yma – ac yn hollbwysig, ymateb Prif Weinidog Cymru – yn ei dangos yn glir fod Llafur wedi fforffedu eu hawl i fod y blaid datganoli.

“Mae cyfarwyddiad Prif Weinidog yn datgelu ei ddiystyrwch â Chymru ac am ein sefydliadau democrataidd. Yn lle amddiffyn Cymru, mae Prif Weinidog Cymru yn gyson wedi penderfynu amddiffyn Llywodraeth y DU.

“Mae cynnig Plaid Cymru yn syml yn nodi ni ddylai Llywodraeth y DU gwneud penderfyniadau gwariant yng Nghymru pan fod Llywodraeth Cymru yn eu gwrthwynebu – ac eto, mae Llafur, y blaid llywodraethu yng Nghymru, yn bwriadu pleidleisio yn ei erbyn. Mae’n glir mai eu blaenoriaeth nhw yw eu cyd-weithwyr yn San Steffan, nid sefyll i fyny dros Gymru.

“Ar HS2, Ystâd y Goron, neu gyllido teg, mae Llafur wedi methu i roi Cymru’n gyntaf. Mae pobl Cymru yn disgwyl gwell.

“Mae’n bryd am arweinyddiaeth newydd gyda Phlaid Cymru – llywodraeth bydd bob tro yn sefyll i fyny dros Gymru, ein cymunedau, ac ein democratiaeth.”