Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Llafur am fethu i sefyll i fyny dros Gymru ar ôl iddynt bleidleisio yn erbyn galwadau i wthio ar Lywodraeth y DU i “beidio gwneud penderfyniadau gwariant yng Nghymru pan maent wedi’i wrthwynebu.”

Roedd pleidlais y Senedd ar gynnig Plaid Cymru yn dilyn nodyn Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn datgan gall aelodau ai Gabinet fynd yn erbyn dymuniadau’r Senedd a Llywodraeth y DU.

Dywedodd aelod Plaid Cymru Heledd Fychan fod Llafur honiad Llafur mai nhw yw ‘plaid datganoli’ bellach yn un “gwag” o ganlyniad - gyda chynnydd mewn undebaeth gwrth-ddatganoledig o dan arweinyddiaeth Llafur, gan danseilio’r Senedd.

Yn ystod y ddadl, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg hefyd wedi dweud fod y ddadl Senedd yn “gyfle i uno a sefyll i fyny, nid am ein hunain, ond i’r sefydliad democrataidd yma” – gan ategu fod ymateb Llafur wedi methu dangos yr “arweinyddiaeth gryf sydd angen ar Gymru.”

Wrth siarad yn dilyn y bleidlais, dywedodd Heledd Fychan AS:

Unwaith eto, mae Llafur wedi methu dangos yr arweinyddiaeth gryf sydd angen ar Gymru. Trwy bleidleisio yn erbyn galwadau Plaid Cymru i Lywodraeth y DU i beidio ochrgamu sefydliadau democrataidd Cymru – mae Llafur wedi dangos y byddant bob tro yn rhoi eu plaid cyn eu gwlad.

“Am flynyddoedd, mae Llafur wedi honni i fod y “plaid datganoli” – pa mor wag mae’r honiad yma bellach, yn enwedig yng ngoleuni nodyn y Prif Weinidog.

“Dan arweinyddiaeth Keir Starmer, rydym wedi gweld ymyleiddio pellach o leisiau o blaid-datganoli o fewn Llafur – a’r cynydd o undebaeth gwrth-ddatganoli – gan danseilio ein Senedd a llais Cymru.

“Mae’n glir fod San Steffan yn meddwl eu bod yn gwybod yn well na phawb – ac nid yw Llafur yma yng Nghymru yn eu herio hyd yn oed.

“I Blaid Cymru, mae sefyll i fyny dros Gymru ddim yn slogan gwag, i’w gwaredu neu siarad lawr pan fod yn anghyfleus yn wleidyddol – dyma’n pwrpas. Dim ond llywodraeth Plaid Cymru bydd yn rhoi buddiannau gorau’n cymunedau yn gyntaf ac yn sefyll i fyny i San Steffan.”