Datgelwyd nad oedd stoc wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer pandemig yn cynnwys unrhyw wisgoedd llawfeddygol cyn i’r argyfwng Coronafeirws daro Cymru – yn groes i’r hyn a ddywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wrth y cyhoedd bythefnos yn ôl.

Bythefnos yn ôl, dywedodd Vaughan Gething yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru i’r wasg fod gwisgoedd wedi’u cynnwys yn stoc Llywodraeth Cymru wrth gefn ar gyfer pandemig pan gyrhaeddodd Coronafeirws y DG.

Fodd bynnag, cadarnhaodd llythyr a anfonwyd at arweinydd Plaid Cymru Adam Price yr wythnos ddiwethaf gan y Prif Weinidog nad oedd gwisgoedd yn y stoc ar gyfer pandemig rhwng Mehefin 2016 a Chwefror 2020.

Noda’r llythyr fod offer gwarchod llygaid, 1.488m o fframiau a 1.658m lens, 5.7m  o fygydau wyneb a 4.8m o fenig, ond cadarnhaodd “nad oedd gwisgoedd wedi eu cynnwys yn y stoc wrth gefn ar gyfer pandemig”.

Pan gafodd ei holi gan Adam Price yn Natganiad y Prif Weinidog heddiw, nid oedd yn ymddangos fod y Prif Weinidog yn ymwybodol o’r llythyr a anfonodd at arweinydd Plaid Cymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price nad oedd y Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd yn ymwybodol o fanylion am y stoc wrth gefn ar gyfer pandemig.

Dywedodd Mr Price fod Llywodraeth Cymru yn 2016 wedi eu cynrychioli ar is-bwyllgor o NERVTAG – sy’n cynghori Llywodraeth y DG at stociau wrth gefn rhag ofn y ceid pandemig, a argymhellodd y dylid ail-ystyried cyfansoddiad y stoc o CGP.

Tynnodd sylw at y ffaith, ym mis Mehefin llynedd, fod NERVTAG wedi argymell yn benodol y dylid caffael gwisgoedd a holodd a welodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwnnw.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru naill ai fod Llywodraeth Cymru wedi gweld yr argymhelliad ac wedi methu â gweithredu neu fod Llywodraeth y DG wedi methu â rhannu “gwybodaeth fyddai’n achub bywydau” gyda Chymru.

Dywedodd y Prif Weinidog “na allai ateb y math yna o gwestiwn manwl”.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price,

“A bod yn garedig, mae ateb y  Gweinidog yn y gynhadledd i’r wasg yn cael ei wrth-ddweud yn llwyr gan ateb y Prif Weinidog i mi yn ei lythyr.

“Mae hefyd yn hollol anhygoel nad oedd y Prif Weinidog yn gwybod beth oedd cynnwys llythyr a ysgrifennodd ef ei hun ata’i ac na allai esbonio pa stoc oedd ar gael ar gyfer pandemig cyn i’r feirws daro. Nid ydym fel petaent yn amgyffred y manylyn hanfodol hwn am y stoc ar gyfer pandemig.

“Ym mis Mehefin llynedd, argymhellodd NERVTAG y dylid caffael gwisgoedd. Dyma’r ail waith i mi ofyn i’r Prif Weinidog ddweud yn glir a welodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwnnw neu beidio. Os na wnaethant, a yw’n wir felly fod Llywodraeth y DG wedi methu rhannu gwybodaeth a allasai fod wedi achub bywydau gyda Llywodraeth Cymru?

“Yn hytrach na’i osgoi, rhaid i’r Prif Weinidog ateb y cwestiwn pwysig hwnnw.

“Bu’r diffyg CGP yn ffynhonnell pryder mawr i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen, a bu’r stoc o wisgoedd llawfeddygol yn benodol yn broblem. Dim ond trwy ddatgelu’r ffeithiau yn llawn y cânt sicrwydd fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael mewn cyfnod argyfyngus.