Yr ailddosbarthiad o brosiect rheilffyrdd yn Lloegr yn “esiampl anghyfiawn” o lywodraeth San Steffan yn gweithio yn erbyn Cymru – AS Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn glir am bryd y dysgon nhw am ail-ddynodi llinell Rhydychen-Caergrawnt i "Gymru a Lloegr" a pha brosiectau rheilffyrdd Cymru fydd yn colli buddsoddiad yn sgil y penderfyniad diweddar.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth, cyfeiriodd Peredur Owen Griffiths AS at yr wybodaeth newydd sydd wedi datgelu roedd y prosiect wedi'i ddynodi yn Lloegr-yn-unig yn rhifynnau 2020, 2021, 2023 a 2024 o Ddatganiad Polisïau Cyllido Llywodraeth y DU. Gofynnodd am eglurder ar y canlynol:

  1. Pryd wnaethoch chi ddod yn ymwybodol o'r ail-ddosbarthiad?
  2. A ydych chi'n cytuno bod y dosbarthiad blaenorol (Lloegr yn unig) a oedd yn darparu cyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru yn ddosbarthiad cywir?
  3. Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cynnal gyda chyd-Aelodau Llafur yn San Steffan a swyddogion y Trysorlys er mwyn pwyso am adfer y dosbarthiad gwreiddiol?
  4. Pa brosiectau rheilffordd yng Nghymru fydd naill ai'n colli allan neu ddim yn digwydd o gwbl o ganlyniad i Gymru’n cael ei amddifadu o'i gyfran o gyllid fyddai’n deillio o’r cyswllt Rhydychen i Gaergrawnt?Mae llefarydd Plaid Cymru dros Drafnidiaeth wedi datgan ei siom am dawelwch Llywodraeth Lafur Cymru ar y mater.

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Drafnidiaeth wedi datgan ei siom am dawelwch Llywodraeth Lafur Cymru ar y mater.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS:

“Mae penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i ail-ddynodi’r cyswllt rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt fel prosiect Cymru a Lloegr yn un o'r enghreifftiau mwyaf anghyfiawn o lywodraeth San Steffan yn gweithio yn erbyn buddiannau gorau pobl Cymru.

“Er roedd y prosiect wedi'i ddynodi fel prosiect Lloegr mewn rhifynnau 2020, 2021, 2023 a 2024 o Ddatganiad Polisïau Cyllido Llywodraeth y DU, gan olygu bod Cymru wedi derbyn arian canlyniadol – mae Llafur wedi symud y pyst gôl ac yn dewis gwadu Cymru o fuddsoddiad hanfodol.

“Heb i ni wybod fel arall, gall y penderfyniad yma arwain at brosiectau rheilffyrdd yng Nghymru colli allan neu beidio digwydd o gwbl o ganlyniad i Gymru’n cael ei hamddifadu o’i chyfran deg o gyllid.

“Mae'n rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru fod yn glir am bryd roeddent wedi dysgu am y penderfyniad; pa ganlyniadau bydd y penderfyniad hwn yn ei gael ar Gymru a buddsoddiad i brosiectau rheilffyrdd Cymreig; a sut maent yn bwriadu cydweithio â'u cydweithwyr yn San Steffan i gywiro'r cam-ddosbarthiad hwn. Mae'n bryd i'w 'bartneriaeth mewn grym' ddechrau cyflawni dros Gymru, yn lle gweithio yn erbyn ein herbyn.”