Liz Saville Roberts yn dweud fod cyfuno Palestine Action â dau sefydliad eithafol o dramor 'wedi'i wneud yn fwriadol, yn sinigaidd ac yn anghymesur'

Heddiw (dydd Llun 8 Medi) galwodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, ar Lywodraeth y DU i gyfaddef bod Llafur “yn ymddangos fel petai ganddynt fwy o ddiddrodeb mewn tawelu protestiadau na chynnal plismona trwy gydsyniad”.

Ar 23 Mehefin 2025, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Yvette Cooper, gynlluniau Llywodraeth y DU i wahardd Palestine Action o dan adran 3 o Ddeddf Terfysgaeth 2000, a fyddai’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon i fod yn aelod o’r grŵp, neu ddangos cefnogaeth iddo.

Cyflwynwyd hyn i Dŷ’r Cyffredin mewn pleidlais ar 2 Gorffennaf, lle grwpiodd Llywodraeth y DU Palestine Action gyda dau sefydliad eithafol o dramor, sef y Maniacs Murder Club a'r Russian Imperial Movement. Fe wnaeth Plaid Cymru ymatal o'r bleidlais, ynghyd â’r SNP, oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi ei gwneud hi’n amhosibl diwygio’r hyn a gyflwynwyd ac a roddwyd i bleidlais.

Dywedodd Ms Saville Roberts fod rhoi Palestine Action gyda’r Maniacs Murder Club a’r Russian Imperial Movement “wedi'i wneud yn fwriadol, yn sinigaidd ac yn anghymesur” a dywedodd fod hyn wedi arwain at arestio cannoedd o brotestwyr.

Ddydd Sadwrn (6 Medi), arestiwyd 890 o bobl yn Llundain mewn gwrthdystiad yn erbyn y gwaharddiad ar Palestine Action.

Ar y diwrnod hwn ym 1936, wyth deg naw mlynedd yn ôl, rhoddwyd ysgol fomio’r RAF ym Mhenyberth ar dân, gan arwain at arestio tri aelod a gyfrannodd at sefydlu Plaid Cymru. Yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Ms Saville Roberts y bydden nhw a’u holl gefnogwyr “yn debygol o gael eu brandio'n derfysgwyr” heddiw am eu gweithredoedd uniongyrchol di-drais.

Wrth siarad yn y siambr, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Ar y diwrnod hwn, wyth deg naw mlynedd yn ôl, fe wnaeth tri aelod a gyfrannod at sefydlu Plaid Cymru gyfaddef i losgi ysgol fomio'r RAF ym Mhenyberth.

“Heddiw, bydden nhw a’u holl gefnogwyr yn debygol o gael eu brandio’n derfysgwyr am eu gweithredoedd uniongyrchol di-drais.

“Roedd rhoi Palestine Action gyda Maniacs Murder Club a’r Russian Imperial Movement wedi'i wneud yn fwriadol, yn sinigaidd ac yn anghymesur. Mae wedi arwain at arestio cannoedd, os nad miloedd, o brotestwyr.

“Beth mae e’n ei feddwl fydd y canlyniadau nawr bod ei lywodraeth yn edrych fel petai ganddi fwy o ddiddordeb mewn tawelu protestiadau na chynnal plismona trwy gydsyniad?”

 

Fe wnaeth y Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref, Dan Jarvis, ymateb rwy ddatgan nad oedd Palestine Action wedi’i grwpio gyda Maniacs Murder Club a’r Russian Imperial Movement am y rhesymau a honnwyd gan Ms Saville Roberts, ond yn hytrach oherwydd “bod hon yn llywodraeth sydd ag agenda ddeddfwriaethol brysur, ac mae angen i ni fod yn effeithlon gydag amser seneddol gwerthfawr,” ac “nad yw’r llywodraeth hon yn edrych ar darddiad ideolegol y bygythiad; byddwn yn gwneud yr hyn sydd angen i ni ei wneud i gadw’r cyhoedd yn ddiogel, waeth o ble mae’r bygythiad yn dod.”