Plaid Cymru yn addo ymladd dros “degwch ariannol i Gymru” cyn eu lansiad maniffesto
Mae sicrhau cyllid teg i Gymru, y biliynau sy’n ddyledus i Gymru mewn arian rheilffyrdd, a grymoedd dros adnoddau naturiol i gyd yn addewidion allweddol ym maniffesto etholiad cyffredinol Plaid Cymru a fydd yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth y byddai ei blaid yn “brwydro bob dydd” am y biliynau sy’n ddyledus i Gymru o brosiect rheilffordd cyflym HS2, ac am fodel ariannu teg sy’n “ariannu ein gwlad yn ôl angen, nid poblogaeth”.
Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai system ariannu decach i Gymru yn galluogi mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn “gwobrwyo ein gweithlu’n well”.
Mae addewidion allweddol y blaid yn cynnwys:
- Sicrhau'r £4bn sy'n ddyledus i Gymru o HS2 i'w fuddsoddi mewn gwella ein trafnidiaeth gyhoeddus ein hunain ym mhob rhan o'r wlad a gwrthdroi toriadau i wasanaethau bysiau lleol.
- Mynnu system ariannu deg i Gymru, yn seiliedig ar ein hanghenion, gan roi'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn eu haeddu i ni.
- Unioni anhegwch economaidd; cynyddu trethi ar hap a datganoli Ystad y Goron er mwyn creu swyddi gwyrdd ac adeiladu ffyniant.
Mae’r blaid hefyd yn addo amddiffyn a chryfhau’r setliad datganoli yn dilyn ymdrechion diweddar gan bleidiau Llundain i danseilio hunanlywodraeth Cymru.
Bydd Plaid Cymru yn lansio eu maniffesto etholiad cyffredinol am 10:30yb ddydd Iau 13 Mehefin yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.
Meddai Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,
“Mae’r etholiad hwn am un peth ac yr economi ydi hwnnw.
“Yr hyn sy’n gosod Plaid Cymru ar wahân yw record o beidio â chymryd Cymru’n ganiataol a bob amser yn rhoi buddiannau ein cymunedau a’n cenedl yn gyntaf. Rydym yn cynnig dewis amgen go iawn i Gymru.
“Dyna pam rwy’n falch o lansio ein maniffesto heddiw sy’n nodi gweledigaeth Plaid Cymru o ddyfodol tecach, mwy uchelgeisiol lle gall pawb gyrraedd eu potensial – waeth beth fo’u hamgylchiadau neu gefndir.
“Byddwn yn brwydro bob dydd am y biliynau sy’n ddyledus i Gymru o brosiect rheilffordd cyflym HS2, ac am fodel ariannu teg sy’n ariannu ein gwlad yn ôl angen, nid poblogaeth.
“Bydd hyn yn ein galluogi i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus a gwobrwyo ein gweithlu yn well.
“Trwy gefnogi teuluoedd a thrwy drosglwyddo pwerau i sicrhau bod mwy o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, byddwn yn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw ac yn darparu atebion Cymreig i broblemau Cymreig.
“Mae’r diffyg rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol yn golygu ein bod yn gyfoethog pan mae’n dod at ynni ond yn dlawd o ran tanwydd. Bydd Plaid Cymru yn ymladd dros degwch economaidd drwy gynyddu trethi ar hap a mynnu trosglwyddo pwerau dros Ystad y Goron i greu swyddi gwyrdd ac adeiladu ffyniant.
“I Gymru, mae pedair blynedd ar ddeg o doriadau ac anhrefn gan y Torïaid wedi crebachu ein gwasanaethau cyhoeddus ond does dim arwydd y bydd llywodraeth Llafur yn cynnig unrhyw newid go iawn chwaith. Mae ein cymunedau yn gorfod talu’r prif am ddegawdau o danfuddsoddi wrth law y ddwy blaid.
“Ar 4 Gorffennaf, gallwn anfon neges na fydd Cymru’n cael ei chymryd yn ganiataol mwyach a hynny drwy ethol grŵp cryf o ASau Plaid Cymru fydd bob amser yn mynnu tegwch i’w cymunedau ac yn rhoi buddiannau gorau Cymru yn gyntaf. San Steffan.”