“Mae rhannu a herio syniadau yn rhan annatod o'n democratiaeth”

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, heddiw wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw am ddadl gyhoeddus rhwng arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.

Ers dechrau'r pandemig, mae Mr Price wedi nodi ei bod hi’n gyfnod “gwleidyddol digynsail” ac mae'n ddealladwy bod penderfyniadau wedi'u gwneud ar fyr rybudd.

Mae’r farn gyffredinol yn rhagweld ail don. Felly, cyn i hyn ddigwydd mae Mr Price wedi dweud mai nawr yw'r amser i ddod â lefel y craffu yn ôl gan fod hi’n “hanfodol i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa fwy gwydn nag ar ddechrau'r pandemig.”

Mae Mr Price yn awyddus i hyn ddigwydd yn awr, “cyn ein bod ni yng ngwres yr etholiad”, ac mae'n dweud y byddai pobl Cymru yn elwa o “drafodaeth aeddfed.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS:

“Gan fod y pandemig yn mynnu bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar fyr rybudd, bu llai o amser ar gyfer yr holi a’r herio sy'n rhan annatod o'n democratiaeth.

“Yn hollbwysig, dylem roi amser i ni'n hunain ddeall pa wersi y gellir eu dysgu o'r misoedd diwethaf, cyn wynebu'r hyn y mae arbenigwyr yn ei ragweld fydd ail don a all daro cyn diwedd y flwyddyn.

“Mae rhannu syniadau - eu herio a'u cofleidio - yn rhan mor bwysig o sicrhau fod pobl Cymru yn cael eu cynrychioli orau gan y rhai y maent wedi'u hethol. Yn yr ysbryd hwnnw, credaf mai dyma’r amser am ddadl gyhoeddus rhwng arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.

“Byddai pobl Cymru’n elwa o glywed trafodaeth aeddfed cyn ein bod ni yng ngwres yr ymgyrch etholiadol.”