Dewch i drafod Cymru: Plaid Cymru i ddechrau taith arweinydd yn Wrecsam
“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n mynd â’i neges i Gymru gyfan” – Rhun ap Iorwerth
Bydd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn dechrau ar ei daith Arweinydd o amgylch Cymru cyn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf ar ddydd Iau 31 Gorffennaf am 18:00 yn Neuadd Maesgwyn, Wrecsam, yn etholaeth newydd Fflint Wrecsam.
Bydd y cyfarfodydd agored yn rhan allweddol o ymgyrch etholiadol Plaid Cymru - gan roi cyfle i bobl a chymunedau ledled Cymru ddweud eu dweud ar faterion allweddol a thrafod gweledigaeth Rhun ap Iorwerth ar gyfer Cymru decach a mwy uchelgeisiol.
Gydag etholiad y Senedd mewn llai o ddeng mis, mae Rhun ap Iorwerth yn annog pobl ledled Cymru i gymryd rhan mewn sgwrs gyda Phlaid Cymru i weithio gyda'i gilydd i gyflawni newid gwirioneddol.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Mr ap Iorwerth fod "mwy o bobl yn troi at weledigaeth obeithiol Plaid Cymru".
Yn gynharach eleni, wnaeth dau arolwg yn olynol datgelu bod Plaid Cymru ar y brig ar gyfer etholiad y flwyddyn nesaf - o flaen Reform a Llafur.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:
"Dros y misoedd nesaf, byddaf yn teithio i bob rhan o Gymru – gogledd, de, dwyrain, gorllewin a phob man rhyngddynt – i ymgysylltu â chymunedau a chlywed eu syniadau am beth mae Cymru decach ac uchelgeisiol yn edrych iddyn nhw.
"Mae etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf yn cynnig cyfle gwirioneddol i Gymru ethol llywodraeth sy'n canolbwyntio ar gyflawni dros Gymru. Mae mwy a mwy o bobl yn troi at weledigaeth obeithiol Plaid Cymru – ond gyda’n gilydd y daw newid go iawn.
"Tra bod pleidiau eraill yn cymryd Cymru yn ganiataol, gan gynnig mwy o'r un peth ar ôl gadael ein cymunedau i lawr am flynyddoedd maith, neu weld ein cymunedau fel cyfle am lun arall; Plaid Cymru yw'r unig blaid sy'n mynd â'i neges i Gymru gyfan.
"Felly os ydych chi eisiau helpu i adeiladu newid gwirioneddol i'n cymunedau, dewch draw i ddechrau sgwrs gyda Phlaid Cymru. Mae'n bryd rhoi'r dechrau newydd sydd ei angen ar Gymru."
Dywedodd prif ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Fflint Wrecsam, Carrie Harper:
"Rydym wedi gweld llawer o bobl yn Wrecsam yn newid i Blaid Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf felly mae'n briodol cael fod taith Arweinydd Rhun o amgylch Cymru yn dechrau yma. Mae eisoes wedi ymweld â'r etholaeth sawl gwaith ac mae'n deall y materion allweddol rydyn ni'n gweithio gyda phobl arnynt yn lleol fel y Cynllun Datblygu Lleol, mynediad at ddeintyddiaeth a'r heriau o fewn ein gwasanaeth iechyd.
"Mae pobl eisiau cynllun i drawsnewid Cymru a dyna'n union mae Plaid Cymru yn ei roi ar y bwrdd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfarfod nos Iau gan y bydd yn gyfle i bobl yn lleol drafod gweledigaeth y Blaid wyneb yn wyneb gyda’n harweinydd. Mae cymryd yr amser hwnnw i wrando a chysylltu â phleidleiswyr yw'r beth sy'n gwneud Plaid Cymru yn wahanol. Ni yw'r unig blaid a fydd yn rhoi Cymru yn gyntaf bob tro."