Plaid Cymru yn cyhuddo'r Prif Weinidog o ganiatáu ei chydweithwyr yn Llundain i danseilio datganoli "dan ei thrwyn" yn dilyn nodyn Starmer
“Pan roddir y cyfle iddynt sefyll i fyny dros Gymru, byddant yn sefyll cornel Starmer bob un tro” meddai Llyr Gruffydd AS
Wrth ymateb i sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog gyn ystod Pwyllgor ar gyfer Craffu ar waith y Prif Weinidog heddiw (dydd Gwener 13 Mawrth 2026), dywedodd Llyr Gruffydd AS:
“Mae’n rhaid bod y Prif Weinidog wedi darllen nodyn yn gwbl wahanol i bawb arall. Does dim amheuaeth bod nodyn Prif Weinidog y DU wedi rhoi cyfarwyddyd clir i’w Aelodau Cabinet i ochrgamu Llywodraeth Cymru a llywodraethau datganoledig eraill i wario’n uniongyrchol, hyd yn oed pan fod anghytundeb.
“Mae Eluned Morgan yn caniatáu i’w chydweithwyr yn Llundain i danseilio datganoli dan ei thrwyn ei hun - a neb llai na’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Jo Stevens. Mae meincwyr cefn ei hun yn y Senedd yn galw i gael gwared â’r Swyddfa Wladol, ac eto mae Prif Weinidog Cymru yn gwrthod cydnabod sut mae’r rôl wedi datblygu i fod yn ddim byd llai na llais Llywodraeth y DU yng Nghymru, yn hytrach na’r ffordd arall.
“Mae hwn yn esiampl arall o’r Llywodraeth Lafur Cymru yma yn rhoi eu plaid cyn eu gwlad. Pan roddir y cyfle iddynt sefyll i fyny dros Gymru, byddant yn sefyll cornel Starmer bob un tro. Mae’n bryd am arweinyddiaeth newydd i Gymru - a dim ond Plaid Cymru fydd yn sefyll fyny dros ein gwlad a’r hyn sydd yn iawn i’n cymunedau.”