Cynllun i fynd i’r afael â’r argyfwng llythrennedd – Cefin Campbell AS

Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gwarantu mynediad i lyfrgell ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru erbyn 2030 fel rhan o gynllun ehangach i wella canlyniadau llythrennedd.

Bydd llefarydd addysg Plaid Cymru, Cefin Campbell, yn lansio’r polisi yn llyfrgell Caerfyrddin ddydd Mercher 3 Medi ar ddechrau’r flwyddyn ysgol.

Cofnododd Cymru ei sgôr darllen isaf erioed yn asesiad PISA 2022, 466, gan ddisgyn islaw cyfartaledd yr OECD a’n rhoi yn olaf ymhlith gwledydd y DU.

Roedd y dirywiad ers 2018 yn fwy serth nag mewn mannau eraill yn y DU, gan nodi perfformiad gwannaf Cymru ers ymuno â PISA yn 2006.

Tynnodd Adroddiad Blynyddol ESTYN 2023–24 sylw at y ffaith bod diffyg cynllunio effeithiol ar gyfer sgiliau darllen uwch mewn llawer o ysgolion cynradd. Cafodd dros 30% o ysgolion gyngor i wella llythrennedd, rhifedd, neu sgiliau digidol.

O dan gynlluniau Plaid Cymru, bydd gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at ofod llyfrgell bwrpasol i gefnogi llythrennedd, dwyieithrwydd, a chariad gydol oes at ddarllen, gyda buddsoddiad yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer ysgolion cynradd sydd ar hyn o bryd yn brin o ddarpariaeth erbyn 2030. Mae'r ymrwymiad wedi'i ysbrydoli gan ymgyrch Libraries for Primaries y National Literacy Trust a Penguin Books.

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Cefin Campbell, fod ymchwil yn dangos bod mynediad at lyfrgelloedd ysgolion yn hybu darllen ymhlith plant, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, ond bod Llafur wedi methu â darparu'r gefnogaeth hanfodol hon. Byddai gwarantu llyfrgell ym mhob ysgol gynradd, meddai, yn gam pwysig tuag at godi lefelau llythrennedd.

‘Mae’r prosiect hwn yn un o gyfres o gynlluniau mae Plaid Cymru’n bwriadu eu lansio dros y misoedd nesaf er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng llythrennedd yng Nghymru, ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Addysg Cefin Campbell AS:

“Mae’r canlyniadau PISA diweddaraf ar gyfer darllen yn gosod Cymru ar waelod safleoedd y DU. Nid dyma’r gorau y gall pethau fod i'n plant.

“Mae Plaid Cymru yn credu bod angen dull syml arnom i wella canlyniadau, ac mae gwarantu lle ar gyfer llyfrgell ym mhob ysgol gynradd yn un cam tuag at hynny.

“Mae Llafur wedi esgeuluso rôl sylfaenol llyfrgelloedd mewn llythrennedd, ac mae'n fethiant ganddyn nhw nad oes gan bob ysgol gynradd fynediad at lyfrgell ar y safle.

“Ni ddylai dyfodol ein plant ddibynnu ar loterïau côd post.

“Pan fydd plant yn darllen, mae teuluoedd yn ffynnu. Mae pob plentyn yn haeddu lle i ddarganfod llawenydd darllen. Bydd Plaid Cymru yn gwneud hynny'n realiti.

“Mae angen arweinyddiaeth newydd a newid go iawn ar Gymru yn 2026 – arweinyddiaeth sy'n rhoi plant yn gyntaf, yn buddsoddi mewn ysgolion a chymunedau, ac yn rhoi cyfle teg i bob teulu yng Nghymru. Dyna fydd Plaid Cymru yn ei gyflawni.”