Wrth ymateb i’r setliad dros dro 2026-27 i lywodraeeth leol a chyhoeddwyd heddiw, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid, Heledd Fychan AS:

"Bydd y setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2026-27 a gyhoeddwyd heddiw yn bryderus iawn i bob awdurdod lleol yng Nghymru, yn enwedig ein cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn a fydd yn derbyn y lefel isaf o gyllid.

"Mae Plaid Cymru, yr Archwilydd Cyffredinol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyd eisoes wedi rhybuddio y byddai setliad o'r fath yn gwthio awdurdodau lleol i'r dibyn, gyda'r potensial o godiadau treth gyngor o dros 20% a miloedd o swyddi’n cael eu torri bellach yn rhagolwg real iawn.

"Mae'n amlwg bod angen adolygiad o'r fformiwla ariannu ar frys, fel bod pob awdurdod lleol yn derbyn y cyllid sydd ei angen arnynt i gynnal a chryfhau gwasanaethau cyhoeddus er budd ein cymunedau.

"Mae Llafur wedi hen addo y byddai Cymru yn well o dan ddwy lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd. Gyda'n cynghorau yn wynebu setliad trychinebus arall, nid ydym eto wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hynny. Dim ond Plaid Cymru fydd yn sefyll fyny dros Gymru, yn mynnu bargen well gan San Steffan, ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus."