Plaid Cymru yn galw am arweiniad i helpu i lywio drwy system budd-daliadau, yswiriant ac opsiynau ymddeol yn gynnar i'r rhai sydd â COVID hir

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddull cenedlaethol o ymdrin â COVID hir' er mwyn cyd-gysylltu arbenigedd a dechrau rhoi llwybr triniaeth ar waith.

Gan fod niferoedd cynyddol o bobl yn adrodd am symptomau hirdymor fisoedd ar ôl dal coronafeirws, mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd Rhun ap Iorwerth yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru symud yn gyflymach ar gynlluniau i'w cefnogi.

Mae Mr ap Iorwerth yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu pa gyllid sy'n mynd i mewn ymchwil benodol i COVID hir, ac i roi gwybodaeth fanwl ar pa gymorth fydd ar gael i bobl sydd â symptomau hirdymor.

Ar hyn o bryd nid oes canllawiau clir i'w helpu i lywio'r system fudd-daliadau, systemau yswiriant, nac opsiynau ymddeol yn gynnar, o ystyried efallai na fydd COVID hir yn cael ei gydnabod na'i ddiagnosio fel cyflwr.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

“Pan nad yw meddygon teulu ond yn gweld un neu ddau achos ar y mwyaf, sut y disgwylir iddynt feithrin arbenigedd i wybod sut i ddelio â hyn? Doedden ni ddim yn disgwyl i feddygon teulu weithio ar wahân pan gychwynnodd y pandemig, felly pam mae disgwyl iddyn nhw neud hyn rwan?

“Rhaid i Lywodraeth Cymru symud yn gyflym gyda dull gweithredu cenedlaethol. Mae angen iddynt hefyd ddarparu manylion am y cyllid sydd wedi mynd i mewn i ymchwil benodol ar COVID hir.

“Gorau po gyntaf y gellir diffinio'r anhwylder gwanychol hwn yn iawn, gorau po gyntaf y gellir ei gydnabod a'i ddiagnosio. Mae'n bosibl bod miloedd o bobl yng Nghymru yn ceisio delio ag effaith symptomau hirdymor yn dilyn coronafeirws, ac ar yr un pryd, llywio eu ffordd drwy system nad yw wedi'i theilwra ar gyfer eu hanghenion.

“Mae pobl eisiau gwybod sut i ddelio â'r syndrom hwn. Ond heb gynllun triniaeth – sy'n hygyrch i bawb yng Nghymru – gallem fod yn edrych ar yr argyfwng iechyd nesaf.”