7fed o Fai yn ‘gyfle hanesyddol’ i newid Cymru er gwell – Plaid Cymru
Gall pobl gael “llywodraeth sy’n sefyll dros Gymru mewn ffordd na welwyd erioed o’r blaen” meddai Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS wrth iddo baratoi i lansio ymgyrch Etholiadau’r Senedd Plaid Cymru yng Nghaerffili.
Bydd y blaid hefyd yn lansio eu prif addewidion ar gyfer yr etholiad yn ystod lansiad yr ymgyrch.
Gan annog pleidleiswyr i “ddewis gobaith” wrth iddynt baratoi i bleidleisio ar 7 Mai, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod yr etholiad yn “ddewis clir rhwng Plaid a Reform UK” gyda Llafur “allan o’r ras.”
Cyn lansio’r ymgyrch yn yr etholaeth gipiodd Plaid Cymru oddi wrth Lafur mewn buddugoliaeth is-etholiad syfrdanol ym mis Hydref y llynedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS y gall Caerffili “fod yn lasbrint ar gyfer llwyddiant” ym mhob rhan o Gymru, gan roi’r opsiwn i bobl wrthod cynlluniau anhrefnus, heb gost a rhaniadol Reform gan uno y tu ôl i weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer ffurfio llywodraeth gredadwy a theg.
Yn siarad cyn lansio'r ymgyrch, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:
“Ar Fai 7, bydd gan bobl gyfle hanesyddol i newid Cymru er gwell.
“Mae amser Llafur ar ben, maen nhw bellach allan o'r ras - bydd yr ymgyrch hon yn ddewis clir rhwng Plaid Cymru a Reform, rhwng gobaith a rhaniad, rhwng hygrededd ac anhrefn.
“Plaid Cymru yw'r unig blaid sydd â chynllun uchelgeisiol a chyflawnadwy i ostwng amseroedd aros, codi safonau yn ein hysgolion, cyflwyno ein cynnig gofal plant cyffredinol a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar fusnesau Cymru.
“Does gan Reform dim clem na chynlluniau i ddatrys problemau ein gwlad. Does ganddyn nhw ddim diddordeb o gwbl mewn gwneud yr hyn sydd orau i Gymru a'i chymunedau.
“Gall buddugoliaeth syfrdanol Lindsay Whittle yn yr isetholiad yng Nghaerffili fis Hydref diwethaf fod yn lasbrint ar gyfer llwyddiant ym mhob rhan o Gymru - ymgyrch sydd wedi'i gwreiddio mewn gobaith a goddefgarwch sy'n cynnig arweinyddiaeth newydd a syniadau newydd.
“Mae neges Plaid Cymru i bobl Cymru ar Fai 7 yn glir - dewiswch obaith. Mae 27 mlynedd o reolaeth Llafur wedi dal Cymru yn ôl. Gwyddom fod gan ein cenedl gymaint o botensial ac, os gawn ni’r anrhydedd o arwain y llywodraeth nesaf, bydd Plaid Cymru yn gwireddu’r potensial hwnnw.
“Dyma’r etholiad pwysicaf yn hanes datganoli. Rwy’n annog pawb i uno y tu ôl i Blaid Cymru am y cyfle i gael llywodraeth sy’n sefyll dros Gymru mewn ffordd na welwyd erioed o’r blaen.”