Plaid Cymru yn galw am i’r celfyddydau fod yn rhan o’r ateb yn hytrach na phroblem arall i’w datrys pan fydd y pandemig drosodd.

Gallai’r celfyddydau yng Nghymru fod yn ateb i helpu gyda heriau cyfnodau cloi maith, ac eto, mae’r diwydiant wedi ei anwybyddu i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae Siân Gwenllian AS, yn galw am i’r celfyddydau chwarae mwy o ran yn ein helpu i ddeall y sefyllfa yr ydym ynddi, a’n tywys allan o’r pandemig. 

Mae’r celfyddydau yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail. Tra bod theatrau yn dal ar gau, mae miloedd o berfformwyr, dylunwyr ac artistiaid eraill allan o waith heb unrhyw sicrwydd pryd y gallant ddychwelyd. Ac eto, ar y llaw arall, un o’r ffyrdd sy’n helpu pobl i ymdopi â’r cyfnod cloi yw trwy’r celfyddydau - boed hynny trwy gerddoriaeth, llyfr da, neu wylio ffilm neu ddrama deledu.

At y lles hwn y  gwnaeth Siân Gwenllian, Gweinidog cysgodol dros Addysg, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg dynnu sylw, gan nodi fod y celfyddydau “yn wastad wedi bod yn rhan bwysig o atal problemau rhag gwaethygu” ac y dylem yn awr fod yn eu defnyddio fel ateb i’n “helpu i ddod trwy effaith negyddol cyfnodau cloi hirfaith.”

Adlewyrchir y farn hon ar draws y diwydiant yng Nghymru. Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru a chyn-Gyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen “na ddylid anwybyddu’r effaith o fod mewn cyfnod cloi am amser maith, ac y mae gan y celfyddydau ran bwysig i helpu pobl i ddianc o’u sefyllfa bresennol.” Ychwanega Geinor Styles, Cyfarwyddwraig Artistig Theatr na nÓg “y gallai diwydiant y celfyddydau chwarae rhan wirioneddol bwysig i helpu pobl i ddeall yr hyn maent yn mynd drwyddo a chyfleu sut y gallwn oroesi hyn gyda’n gilydd.”

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sylweddoli manteision y diwydiannau creadigol wrth helpu gydag effeithiau negyddol y cyfnod cloi, a buddsoddi yn niwydiant y celfyddydau cyn iddi fod yn rhy hwyr.

Dywedodd Siân Gwenllian AS, Gweinidog cysgodol dros Addysg, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg:

“Mae sîn gelfyddydol Cymru’n wastad wedi bod yn rhan bwysig o atal problemau rhag gwaethygu. Mae’r celfyddydau creadigol wedi eu gwreiddio yn ein cwricwlwm, ac y mae’n rhan bwysig o’n hunaniaeth. Mae sîn gelfyddydol Cymru yn wahanol iawn i un Lloegr, a hoffwn weld Cymru yn arwain y ffordd ac yn defnyddio’n cryfderau a’n diwydiannau creadigol i’n helpu i ddod trwy effaith negyddol cyfnod maith o gloi.

“Gall diwydiant y celfyddydau helpu Llywodraeth Cymru i gyfleu ei negeseuon allweddol, ond os na wnawn roi’r celfyddydau creadigol wrth galon mentrau, a rhoi rhan iddynt chwarae yn ystod y pandemig, mae arna’i ofn ein bod mewn perygl o golli pobl dalentog, ac y mae hyn yn rhy bwysig i’w anwybyddu. Sôn yr ydym am fuddsoddi yn ein dyfodol, nid rhoi cardod.”

Meddai Geinor Styles, Cyfarwyddwraig Artistig Theatr na nÓg :

“I lawer aelwyd, mae’r rhyddhad a roddwyd gan gerddoriaeth, llenyddiaeth a drama yn werth y byd. Mae wedi ein hatgoffa pa mor werthfawr yw’r celfyddydau, a pham eu bod yn cael eu cyllido.

“Gwyddom pa mor rymus yw adrodd storïau, a gallai diwydiant y celfyddydau chwarae rhan wirioneddol bwysig i helpu pobl i ddeall beth sy’n digwydd a chyfleu’r neges y gallwn ddod trwy hyn gyda’n gilydd. Dylai’r celfyddydau fod yn rhan o’r ateb: rhowch le i ni wrth y bwrdd, a gallwn ddangos i chi rym y celfyddydau i’ch helpu i gyfleu eich neges.”

Meddai Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru ac Uwch-Ddarlithydd yn PCDDS :

“Ni ddylem anwybyddu effaith bod mewn cyfnod cloi am amser maith, ac y mae gan y celfyddydau ran bwysig wrth helpu pobl i ddianc o’u sefyllfa bresennol. Ac eto, po hwyaf y bydd y cyfyngiadau ar waith, mwyaf yw’r perygl o beidio â chael diwydiant celfyddydau o gwbl ar ddiwedd y pandemig. Hyd yn oed os bydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio i ganiatáu i bobl ymgynnull, fydd theatrau ddim yn gallu agor yn syth oherwydd yr oedi cyn i’r cynnwys ddechrau ymddangos eto.

“Mae’r ansicrwydd am ddyfodol y theatr yn golygu ansicrwydd i actorion a pherfformwyr ifanc, ac yr wyf yn pryderu am ddyfodol y myfyrwyr y bûm yn eu hyfforddi dros y blynyddoedd diwethaf. Buaswn yn croesawu unrhyw gamau fyddai’n defnyddio’r diwydiant celfyddydau cyn iddi fod yn rhy hwyr.”