Mae Plaid Cymru heddiw wedi lansio ei maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd, gan nodi cynllun beiddgar i ddatgloi potensial economaidd Cymru ac adeiladu cenedl fwy ffyniannus a hyderus.

Ochr yn ochr â’i blaenoriaethau uniongyrchol, mae’r blaid wedi rhaglen ehangach ar gyfer adnewyddu economaidd, gan gynnwys:

  • Creu swyddi â chyflog da gyda chynllun newydd i gefnogi busnesau Cymru, adfywio canol trefi trwy ddiwygio trethi busnes, defnyddio caffael cyhoeddus i fuddsoddi yn y dyfodol, a sicrhau bod sgiliau a hyfforddiant yn cyd-fynd â swyddi go iawn.
  • Cefnogi teuluoedd gyda chostau byw gyda gofal plant am ddim gwerth £30,000 i blant 9 mis i 4 oed, gyda rhieni’n gallu dychwelyd i’r gwaith a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.
  •  Codi safonau llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion trwy gyflwyno Cynllun Llythrennedd a Rhifedd newydd, cefnogi athrawon, a rhoi llyfrgell i bob ysgol gynradd erbyn 2030, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo.
  • Sefyll dros Gymru i gael bargen deg gan San Steffan i fuddsoddi mewn is-adeiledd – gan gynnwys mynnu mwy o bwerau a chyllid teg a datganoli Ystâd y Goron, cadw elw yng Nghymru a buddsoddi ar gyfer y tymor hir trwy Gronfa Cyfoeth Cymru newydd, cefnogi ynni cymunedol a pherchnogaeth gymunedol, tai fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni, a seilwaith cenedlaethol hanfodol

Wrth siarad ar ôl lansio'r maniffesto, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

“Yr etholiad ar 7 Mai fydd yr un pwysicaf ers dechrau datganoli.

“Mae'n etholiad sy'n cynnig gobaith gwirioneddol i ddyfodol Cymru. Cynrychiolir y gobaith hwnnw gan Blaid Cymru - gweithredu pendant o'r diwrnod cyntaf i fynd i'r afael â'r heriau uniongyrchol sy'n wynebu ein gwlad, gweledigaeth hirdymor ar gyfer adnewyddu ac addewid i sefyll dros Gymru bob amser.

“Mae’r cyfle hwnnw i newid yn cyferbynnu a record Llafur o ddirywiad rheoledig, a’u gwrthodiad i sefyll dros fuddiannau ein cenedl yn erbyn difaterwch San Steffan.

“A dyma’r allwedd i atal bygythiad Reform, nad ydynt yn cynnig unrhyw atebion go iawn i’r heriau yr ydym yn eu hwynebu, yn dewis yn hytrach i rannu ein cymunedau.

“Rwy’n falch o gyflwyno maniffesto Plaid Cymru hwn, ein cynllun ar gyfer Cymru fodern, hyderus – Cymru lle gall ein holl bobl a’n cymunedau gyfrannu at lwyddiant ein cenedl a’i rannu.

“Byddwn yn torri amseroedd aros y gwasanaeth iechyd, gan ryddhau amser, lle ac adnoddau i adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal cynaliadwy ac integredig i Gymru – un sy’n gwneud mwy i gadw pobl yn iach, yn hytrach na thrin salwch yn unig.

“Byddwn yn cefnogi teuluoedd, ac yn rhoi’r dechrau gorau posibl i bob plentyn trwy gynnig gofal plant newydd trawsnewidiol am ddim i bob plentyn rhwng 9 mis a 4 oed.

“Byddwn yn datgloi ein potensial economaidd gan adeiladu ar ein cryfderau i greu swyddi da â chyflog da a lledaenu ffyniant i bob rhan o Gymru.

“A chyda cynnig newydd, feiddgar a phenderfynol ar sgiliau rhifedd a llythrennedd, byddwn yn codi safonau yn ein hysgolion, fel bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i lwyddo.

“Gyda’n gilydd, ac am y tro cyntaf, gallwn roi’r arweinyddiaeth sydd ei hangen ar ein cenedl.

“Arweinyddiaeth sy’n cymryd ei harweiniad gan bobl Cymru a neb arall.

“Arweinyddiaeth sy’n credu pan fyddwn yn dewis gobaith dros raniad a difrifoldeb dros anhrefn, y gall Cymru – ac y bydd Cymru - ffynnu.


Mae'r manifesto ar gael yma.