Feto seneddol yn “hanfodol” cyn unrhyw weithredu milwrol gan y DU yn y Dwyrain Canol - Plaid Cymru
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, ac Arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi rhybuddio Llywodraeth y DU heddiw rhag cael eu llusgo i wrthdaro “a allai fod yn drychinebus” yn y Dwyrain Canol, a bod yn rhaid i Senedd y DU gael dweud ei dweud ar unrhyw gynigion o weithredu milwrol.
Croesawodd Rhun ap Iorwerth AS a Liz Saville Roberts AS alwadau’r Prif Weinidog Keir Starmer am ddiplomyddiaeth a dad-ddwysáu, ond mynegodd y ddau bryderon nad oedd wedi llwyddo i gondemnio'r ffaith fod yr Arlywydd Trump wedi awdurdodu ymosodiadau gan yr Unol Daleithiau yn erbyn Iran dros nos.
Ychwanegodd gwleidyddion Plaid Cymru mai dilyn trywydd o heddwch ddylai gael blaenoriaeth dros unrhyw deyrngarwch gan y DU i’r Unol Daleithiau a rhybuddion nhw yn erbyn ailadrodd hanes pan tynnwyd y DU i mewn i wrthdaro yn y Dwyrain Canol fel “pyped America”.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS a Liz Saville Roberts AS:
“Mae posibilrwydd go iawn y bydd penderfyniad yr Arlywydd Trump i lansio ymosodiadau’r Unol Daleithiau yn erbyn Iran yn drychinebus i ranbarth sydd eisoes yn ansefydlog.