ASau Plaid Cymru y mwyaf gweithgar o’r sawl etholwyd yn 2024, yn ôl dadansoddiad
Ann Davies a Llinos Medi: ‘Rydym yn gwireddu ein haddewid i sefyll dros Gymru’
Mae dadansoddiad o weithgaredd seneddol gan garfan 2024 o ASau yn dangos mai dwy AS Plaid Cymru a etholwyd llynedd – Ann Davies (Caerfyrddin) a Llinos Medi (Ynys Môn) – yw’r ASau Cymreig mwyaf gweithgar yn Nhŷ’r Cyffredin.
Daeth Etholiad Cyffredinol 2024 a’r don fwyaf o ASau tro-cyntaf ers 1945, gyda chyfanswm o 72,270 o gyfraniadau seneddol wedi ei cofnodi rhwng Gorffennaf 4, 2024, a Gorffennaf 31, 2025. Mesurwyd cyfraniadau ar draws tri maes: cwestiynau ysgrifenedig, cyfraniadau llafar, a llofnodion Cynnig Bore Bach (CBB).
Yn ôl PoliMonitor, Ann Davies yw’r mwyaf gweithgar o garfan 2024 o ASau Cymru, gyda 414 o gyfraniadau, gyda Llinos Medi yn agos ar ei hôl, gyda 402 o gyfraniadau. Ar ben arall y spectrwm, cofnododd yr AS Llafur dros Ogledd Clwyd, Gill German, 36 cyfraniad seneddol yn unig dros ei blwyddyn gyntaf yn ei swydd.
|
|
Enw |
Plaid |
Etholaeth |
Cyfanswm Cyfraniadau Seneddol |
Cwestiynau Ysgrifenedig |
Cyfraniadau Llafar |
Cynigion Bore Bach |
|
1 |
Ann Davies |
Plaid Cymru |
Caerfyrddin |
414 |
87 |
68 |
259 |
|
2 |
Llinos Medi |
Plaid Cymru |
Ynys Môn |
402 |
83 |
62 |
257 |
|
3 |
David Chadwick |
Democratiaid Rhyddfrydol |
Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe |
359 |
162 |
84 |
113 |
|
4 |
Steve Witherden |
Llafur |
Maldwyn a Glyndŵr |
209 |
66 |
41 |
102 |
|
5 |
Catherine Fookes |
Llafur |
Sir Fynwy |
107 |
21 |
79 |
7 |
|
6 |
Kanishka Narayan |
Llafur |
Bro Morgannwg |
85 |
68 |
17 |
0 |
|
7 |
Alex Barros-Curtis |
Llafur |
Gorllewin Caerdydd |
73 |
13 |
60 |
0 |
|
8 |
Torsten Bell |
Llafur |
Dwyrain Abertawe |
70 |
9 |
61 |
0 |
|
9 |
Andrew Ranger |
Llafur |
Wrecsam |
63 |
28 |
23 |
12 |
|
10 |
Henry Tufnell |
Llafur |
Canol a De Penfro |
57 |
35 |
20 |
2 |
|
11 |
Claire Hughes |
Llafur |
Bangor Aberconwy |
54 |
8 |
46 |
0 |
|
12 |
Becky Gittins |
Llafur |
Dwyrain Clwyd |
41 |
6 |
35 |
0 |
|
13 |
Gill German |
Llafur |
Gogledd Clwyd |
36 |
1 |
34 |
1 |
Meddai Ann Davies, AS Caerfyrddin:
"Roedd cael fy ethol yn AS Caerfyrddin yng Ngorffennaf 2024 yn anrhydedd ac yn gyfrifoldeb enfawr, ac nid wyf yn ei gymryd yn ysgafn. Rwyf wedi fy nhaflu fy hun i mewn i waith seneddol am bod pobl Caerfyrddin yn haeddu llais sy’n brwydro drostynt.
“Rwy’n falch o allu ymladd ar ran f’etholwyr. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y swydd, rwyf wedi llwyddo i gael cyfarfodydd gyda Gweinidogion ar ran etholwyr a gollodd eu merch yn drist iawn – Greta Marie Otteson – oherwydd gwenwyn methanol, a thros deulu Mike O’Leary sy’n brwydro am drosedd newydd o halogi corff wedi iddo gael ei lofruddio, a’i gorff gael ei halogi.
“Rwyf hefyd wedi lleisio pryderon am gwmniau ynni sy’n methu ag ymgynghori â chymunedau lleol ac wedi tynnu sylw at drafferthion etholwyr anabl sy’n wynebu colli cefnogaeth. Rwyf hefyd wedi sefyll lan dros ffermwyr sy’n wynebu newidiadau anghyfartal mewn trethi. Mae Plaid Cymru yn cadw at ein haddewid o sefyll dros Gymru, ac fe fyddaf yn parhau i herio Llywodraeth y DG i gyflwyno ar ran ein cymunedau."
Meddai Llinos Medi, AS Ynys Môn:
“Mae Plaid Cymru yn troi ein heddewid i sefyll dros Gymru yn weithredoedd. Rydym yn benderfynol na chaiff ein llais ei anwybyddu ac fe wnawn wahaniaeth go-iawn yn San Steffan bob un dydd.
“Gyda phob cyfraniad rwy’n wneud yn y Senedd, byddaf yn cadw pobl Ynys Môn a Chymru yn ganolog. Rwyf wedi gofynd ro ar ôl tro am benderfyniad gwleidyddol am safle’r Wylfa. Rwyf wedi pledio achos mwy o fuddsoddi mewn proseictau ynn i’r llanw ac ynni cymunedol trwy gyflwyno gwelliannau i’r Mesur Great British Energy. Llwyddais i gael dadl seneddol am yr angen i amddiffyn tir amaethyddol da. Rwyf hefyd wedi gofalu bod y ffaith fod Porthladd Caergybi yn agored i stormydd ar yr agenda wleidyddol.
“Rwyf yn falch hefyd fod Plaid Cymru wedi pwyso ar Lafur i roi’r un pwerau â’r Alban i ni, pan gyflwynais welliannau i fesur stad y Goron er mwyn sicrhau bod ein cymunedau yn elwa o’n cyfoeth naturiol. Heb Blaid Cymru, ni fyddai’r materion hyn ar yr agenda. Fe wnawn barhau i ymladd dros Gymru yn San Steffan.”
Diwedd.