Arweinydd Plaid Cymru yn canmol rhai ar reng flaen gwasanaethau cyhoeddus yn ei neges Nadolig
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi canmol y rhai sydd ar reng flaen gwasanaethau cyhoeddus yn ei neges Nadolig.
Cadarnhaodd arweinydd Plaid Cymru hefyd ei ymrwymiad ef a’i blaid i heddwch, a dywedodd, mewn cyfnod o ansefydlogrwydd byd-eang a rhyfel, fod “dyletswydd ar bawb” i “eirioli dros heddwch”.
Wrth fyfyrio ar y flwyddyn a fu, cadarnhaodd Mr ap Iorwerth ymrwymiad Plaid Cymru i adeiladu Cymru decach, fwy ffyniannus a mwy gwydn i bawb wrth i etholiadau’r Senedd agosáu ar 7 Mai 2026.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth,
“Gyda thymor yr ŵyl ar y gweill, gadewch i mi fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno Nadolig Llawen i chi gyd.
“Mae’r Nadolig yn amser i ymlacio yng nghwmni ffrindiau a theulu, ond rhaid inni hefyd gydnabod y gall fod yn gyfnod unig o’r flwyddyn i rai tra i eraill ei fod yn golygu parhau i weithio’n ddiflino ar reng flaen ein gwasanaethau cyhoeddus.
“Ymhellach i ffwrdd, mae’r flwyddyn hon wedi bod yn atgof poenus arall o ansefydlogrwydd byd-eang, gyda llawer ledled y byd yn parhau i wynebu gormes ac erledigaeth.
“Wrth i ryfeloedd barhau ar draws y byd, cawn ein hatgoffa o’n dyletswydd gyffredin i eiriol dros heddwch.
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth,
“Yn wleidyddol, 2025 fu’r flwyddyn y cefnodd Lafur ar Gymru. Mae Keir Starmer wedi tanseilio datganoli ac mae Eluned Morgan wedi bod yn rhy wan i sefyll yn ei erbyn.
“Yn y cyfamser, mae grymoedd eraill mewn gwleidyddiaeth yn ceisio ein rhannu a’n twyllo ar bob tro.
“Ond fel y profodd canlyniad syfrdanol mis Hydref yng Nghaerffili, mae gobaith yn trechu casineb ac mae gweledigaeth yn drech na rhaniad bob tro.
“Wrth i 2026 agosáu, blwyddyn arwyddocaol yng ngwleidyddiaeth Cymru, mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda chi ac gyflwyno’r arweinyddiaeth newydd y mae ei hangen yn daer ar Gymru, ac i greu cenedl decach a mwy ffyniannus i bawb.
“Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i chi gyd.