Mae pobl Cymru yn barod am arweinyddiaeth newydd, meddai arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn ystod sesiwn olaf y Chweched Senedd o Gwestiynau i’r Prif Weinidog ymhen etholiad y Senedd ar Fai 7.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud na gall Llafur cuddio’r ffaith fod pleidleiswyr eisiau newid llywodraeth yng Nghymru - a bod Plaid Cymru yn barod i lywodraethu, gan eisoes wedi cyflawni dros Gymru hyd yn oed mewn gwrthblaid.

Dyfynnodd Mr ap Iorwerth nifer o esiamplau o ddylanwad dros Lywodraeth Lafur Cymru: Prydau ysgol am ddim i blant cynradd ac Ysgol Feddygol yng Ngogledd Cymru - a gweithredu ar yr hil-laddiad yn Gaza gan wthio ar y Senedd i alw am gadoediad brys.

Yn ystod y cyfnewid, dywedodd arweinydd Plaid Cymru fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu i sefyll i fyny dros Gymru tra bod ei blaid wedi sefyll cornel cymunedau Cymru, gan beidio oedi cyn galw allan Prif Weinidog y Deyrnas Unedig pan fod Cymru yn cael eu hochrgamu gan ei Lywodraeth.

Meddai Rhun ap Iorwerth AS,

“Ni all y Prif Weinidog guddio’r ffaith bod pobl Cymru yn barod am arweinyddiaeth newydd. Dyna mae Plaid Cymru’n ei gynnig. Syniadau ac egni newydd. Uchelgais newydd. Ar ôl saith mlynedd ar hugain o Brif Weinidogion Llafur.

“Rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn cymryd ein rôl o ddifrif pan mae’n dod at ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Ond mae hefyd wedi bod am weithredu, hyd yn oed fel gwrthblaid.

“Prydau Ysgol am Ddim – fe gollwyd cyfri o’r nifer o weithiau pleidleisiodd Llafur yn ei erbyn, ond ni wnaeth Plaid Cymru rhoi'r gorau iddi.

“Ysgol Feddygol yng ngogledd Cymru - syniad cafodd ei wrthod gan Lafur ond bellach yn realiti ar ôl ymgyrch hir Plaid Cymru.

“Rwy’n falch o’r safbwynt a gymerwyd fel plaid ar yr hil-laddiad yn Gaza, gan sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed yn glir.

“A phan fod Cymru yn cael eu hochrgamu neu’n colli allan gan Lywodraeth y DU, Plaid Cymru wnaeth alw hyn allan gyda meincwyr cefn Llafur ond yn ymuno â ni pan ddaeth yn fuddiol yn etholiadol.

“Dyna flas o sut fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dangos arweinyddiaeth newydd. Pan mae’n dod at bolisïau sydd yn bwysig i bobl Cymru, yn ogystal â pholau piniwn – lle mae Plaid Cymru yn arwain, mae Llafur yn dilyn?”