Mae’r trefniadau addysgu newydd o’r cartref yn ystod Covid-19 yn tynnu sylw clir ar sut mae tlodi yn dal plant yn ôl.

Ym mis Mawrth, ar ddechrau’r pandemig fe alwodd Plaid Cymru am liniaduron unigol am ddim i blant oed ysgol sydd eu hangen, ac am ddarparu'r rhyngrwyd am ddim i bob cartref â phlant oed ysgol ac sydd heb gysylltiad rhyngrwyd ar hyn o bryd.

Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian AC, petai hyn wedi ei roi ar waith yn syth fe fyddai wedi gwneud gwahaniaeth.

Nododd y Gweindiog Addysg Cysgodol fod yr “anghyfartaledd addysgol” wedi dod i’r amlwg dros yr wythnosau diwethaf ac y gallai’r "cyfnod estynedig" o ddysgu gartref achosi "ledu'r bwlch cyrhaeddiad".

Dywedodd Ms Gwenllian nad oedd hi yn rhy hwyr i weithredu ar awgrym Plaid Cymru o gyfarpar am ddim a galwodd am “arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru” fel bod ysgolion ac awdurdodau lleol ar draws Cymru yn gallu darparu offer i blant sydd ei angen gan roi cefnogaeth ariannol i awdurdodau sydd angen prynu laptops newydd ar frys.

Dywedodd Ms Gwenllian na ddylai'r pandemig olygu bod plant yn colli eu haddysg ac na ddylid "gadael unrhyw blentyn ar ôl."

Meddai Eirlys Edwards, pennaeth ysgol gynradd yng Nghonwy, nad oes gan lawer o blant ac athrawon mewn ardaloedd gwledig yng Nghonwy a Gwynedd fynediad i'r rhyngrwyd ac nad ydynt yn gallu manteisio i'r eithaf ar weithgareddau dysgu o bell megis Hwb neu Google Classrooms.

Dywedodd Ms Edwards, er eu bod yn ceisio bod "mor hyblyg â phosibl" i sicrhau nad oedd plant heb gysylltiad gwe "dan anfantais", roedd yr anghydraddoldeb yn glir.

Dywedodd Ms Edwards fod Conwy wedi bod yn “arwain y ffordd” yn ymateb i’r broblem drwy ddarparu “dongles” symudol am ddim i gartrefi mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell.

Awgrymodd Ms Edwards y gallai hyn gael ei ailadrodd ledled Cymru er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael mynediad at yr un adnoddau a'r un cyfleoedd.

Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd grŵp newydd Cynghrair Gwrthdlodi Cymru at y Prif Weinidog i ofyn am gymorth ariannol i rieni a fydd yn ei chael yn anodd darparu'r adnoddau sydd eu hangen i wneud gwaith ysgol. Heb hyn mae risg o effeithiau hir-dymor i rhagolygon dyfodol rhai o’r plant tlotaf yn ein cymunedau.

Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru Sian Gwenllian AC,

"Mae athrawon yn ceisio bod mor hyblyg â phosibl ond wedi sawl wythnos o’r drefn ysgolion newydd erbyn hyn mae’r anghyfartaledd addysgol sy’n cael ei achosi gan dlodi wedi dod yn glir. Dylai pob cymuned a phob cartref yng Nghymru – gwledig neu drefol, gogledd neu dde gael yr un cyfleoedd wrth wynebu'r sefyllfa anodd hon.

"Does dim syniad ynghylch pryd bydd ysgolion yn ailagor, ac mae rhai'n awgrymu na fyddant yn ailagor tan fis Medi; gallai'r cyfnod estynedig hwn achosi i'r bwlch cyrhaeddiad ledu. Mae bod heb wi-fi neu ddyfeisiau addas yn golygu bod plant wedi'u cloi allan o'u haddysg.

“Dyw hi ddim rhy hwyr i weithredu awgrym Plaid Cymru o gyfarpar am ddim ac rwy’n deall fod rhai awdurdodau lleol yn darparu offer a ‘dongles’ i’r disgyblion rheini sydd eu hangen. Mae angen arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru fel bod ysgolion ac awdurdodau lleol led led Cymru yn darparu offer i blant sydd ei angen gan roi cefnogaeth ariannol i awdurdodau sydd angen prynu laptops newydd ar frys.

"Ni ddylai'r pandemig Coronafeirws olygu bod plant ar eu colled o ran eu haddysg. Ni ddylid gadael unrhyw blentyn ar ôl.

Meddai Eirlys Edwards, pennaeth ysgol gynradd yng Nghonwy,

"Mae llawer o blant ac athrawon yn byw mewn ardaloedd gwledig heb fynediad rhyngrwyd. Mae'n bosibl y bydd ganddynt ddigon o fynediad i anfon e-bost, ond dim digon i fanteisio i'r eithaf ar weithgareddau dysgu o bell megis Hwb a Google Classrooms.

"Rydym yn ceisio bod mor hyblyg â phosibl a defnyddio amrywiaeth o ddulliau i sicrhau nad yw plant heb gysylltiad gwe dan anfantais. Fodd bynnag, mae sefyllfa pawb yn wahanol a does dim un model addysgu o bell yn mynd i weddu i bawb.

"Pe bai'r un adnoddau ar gael i bawb, byddai'r plant yn gallu siarad â'i gilydd ar lwyfannau dysgu diogel fel Hwb, a byddai hynny yn ei dro'n cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant emosiynol mewn cyfnod o unigrwydd fel hwn.

“Mae Conwy wedi bod yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â’r broblem hon trwy ddarparu donglau symudol i gartrefi mewn ardaloedd gwledig neu anghysbell. Gall hyn fod yn rywbeth  y gellid ei efelychu ledled Cymru i sicrhau bod pob plentyn, ble bynnag y maent yn byw, yn gallu cael mynediad at yr un adnoddau a'r un cyfleoedd.

“Mae Conwy hefyd wedi bod yn cynnig offer TGCh i ddisgyblion trwy logi offer o’r ysgolion a’u rhoi i rieni sydd eu hangen ar gyfer eu plant.

"Dylai fod gan bob plentyn, ble bynnag mae'n byw, yr un adnoddau a'r un cyfleoedd.