Plaid Cymru yn addo “Arwain Cymru o'r Newydd”
Y blaid yn cyhoeddi ei slogan ymgyrch newydd ar gyfer 2026
Mae Plaid Cymru yn addo “arwain Cymru o’r newydd” os yw’n arwain y llywodraeth yn dilyn etholiad y Senedd blwyddyn nesaf, mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud.
Wrth lansio slogan etholiad newydd Plaid Cymru ymhen eu Cynhadledd Flynyddol yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ar Ddydd Gwener (10fed Hydref 2025), mae Mr ap Iorwerth wedi dweud fod arwain Cymru o’r newydd yn golygu sicrhau tegwch i Gymru, gwella’n gwasanaethau cyhoeddus, a chynnig gobaith i’r dyfodol.
Mae etholiad y Senedd flwyddyn nesaf nawr yn cael ei hystyried fel ras dau geffyl rhwng arweinyddiaeth newydd â Phlaid Cymru, a ymgais Reform i rannu’n cymunedau. Mae Plaid Cymru yn gyson yn arwain y polau piniwn gyda Reform yn agos tu ôl, a chefnogaeth Llafur yn dirywio.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:
“Mae angen arwain Cymru o’r newydd, gyda syniadau newydd i fynd a ni ymlaen.
“Mae hynny’n golygu llywodraeth a fydd yn sefyll fyny dros ein cymunedau i sicrhau tegwch i Gymru – nid distawrwydd pan fod San Steffan unwaith eto yn ein trin â dirmyg.
“Mae’n golygu mynd i’r afael â rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, gwella safonau mewn addysg, gwell cyfleoedd gwaith, a mynd i’r afael â thlodi.
“Ac mae hefyd yn golygu gobaith gwirioneddol i’n dyfodol – y gwrthwenwyn i wleidyddiaeth popiwlistaidd yr asgell dde.
“Dyna mae Plaid Cymru yn ei chynnig ac yn addo ein cymunedau.
“Mae dau gynnig ymhen etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf ond dim ond un llywodraeth gredadwy: arweinyddiaeth o’r newydd i Gymru gyda Phlaid Cymru wedi’i chanolbwyntio ar gyflawni ar gyfer ein cymunedau, neu fwy o raniadau yn ein cymunedau gyda Reform – llestr gwag sy’n gwneud llawer o sŵn.
“Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau arwain o’r newydd i Gymru, gyda chynlluniau radical, uchelgeisiol, mai dim ond Plaid Cymru sy’n ei chynnig.”