Cynllun Plaid Cymru ar gyfer yr NHS
Mae rhestrau aros yr NHS yng Nghymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed bob mis ers mis Mawrth 2024, ac wedi pasio 800,000 ym mis Hydref gyda tua 620,300 o bobl yn aros am driniaeth.
Llafur sydd wedi rhedeg yr NHS yng Nghymru am y 25 mlynedd diwethaf.
Mae'r cynllun hwn yn amlinellu sawl peth y byddai Plaid Cymru yn ei wneud ar unwaith yn nyddiau cyntaf llywodraeth.
Hir pob aros? Troi cornel ar dorri rhestrau aros y gwasanaeth iechyd
1. Canolfannau Triniaeth Lleol (i drin pobl ar restrau aros yn gynt)
Mae gofal brys yn aml yn cymryd adnoddau oddi wrth driniaethau wedi'u cynllunio, gan achosi arosiadau hir. Byddai Plaid Cymru yn sefydlu canolfannau triniaeth dros dro mewn ysbytai presennol, pob un yn canolbwyntio ar fath penodol o ofal. Drwy ad-drefnu staff a defnyddio lleoedd mewn ysbytai nad ydynt yn cael eu defnyddio ddigon, gallem leihau rhestrau aros hyd at 30% heb fod angen adeiladau newydd na staff ychwanegol.
[brig]
2. Cyflymu Atgyfeiriadau
Mae'r broses atgyfeirio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn araf ac yn aneffeithlon, yn rhannol oherwydd prinder meddygon teulu. Mae Plaid Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â hyn drwy greu tîm arbennig i gyflymu atgyfeiriadau a pharu cleifion yn gyflym â’r meddygon cywir. Byddai hyn yn tynnu achosion diangen oddi ar restrau aros, ac yn cefnogi meddygon gyda chymeradwyaeth ar y penwythnos i ryddhau lle. Gallai hyn glirio hyd at 60% o ôl-groniadau mewn rhai meysydd, fel dermatoleg.
[brig]
3. Gwneud i Fyrddau Iechyd Gydweithio
Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ysbytai’n rhannu adnoddau ac yn gweithio fel tîm fel bod cleifion yn gallu cael eu trin yn gynt, ni waeth ble maen nhw’n byw.
Nid yw byrddau iechyd Cymru yn cydweithio cystal ag y dylent, gan arwain at gydgysylltu gwael a gwastraffu adnoddau. Byddai Plaid Cymru yn cyflwyno deddfau brys i wneud i fyrddau iechyd gydweithio’n well a rhannu adnoddau’n fwy effeithiol.
[brig]
4. Gwell Cynllunio o amgylch rhestrau aros
Mae Plaid Cymru yn bwriadu gwella sut mae rhestrau aros yn cael eu rheoli trwy osod lefelau staffio cyn i driniaethau gael eu cynllunio, yn seiliedig ar fodelau llwyddiannus fel y rhai yn Aneurin Bevan. Byddwn yn creu canllawiau cenedlaethol ar gyfer rheoli rhestrau aros ac yn defnyddio dull tîm ar gyfer asesiadau cleifion, megis archwiliadau corff cyfan gan feddygon teulu i ganfod cyflyrau’n gynnar.
[brig]
5. Defnyddio Technoleg i Helpu Cleifion
Mae Plaid Cymru yn bwriadu defnyddio technoleg i wella gofal i gleifion ar restrau aros. Nid oes angen llawdriniaeth ar lawer ond mae angen gwell cymorth arnynt i reoli eu cyflyrau. Byddwn yn defnyddio offer digidol i helpu cleifion i olrhain a rheoli eu gofal, a chaniatáu i feddygon eu monitro o bell. Bydd y Gwasanaeth Brysbennu Gweithredol yn helpu i roi trefn ar restrau aros ac yn sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon, gan ddarparu gofal cyflymach a lleihau oedi diangen. Bydd hyn yn creu haen o gymorth rhwng meddygon teulu ac arbenigwyr, gan lenwi bwlch yn y gofal presennol.
[brig]
Darllen mwy
System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant
Mabon ap Gwynfor, Tachwedd 2024