Safonau diffygiol ym myrddau iechyd Cymru yn cael ei normaleiddio dan Lafur
‘Mae Betsi yn dangos nad yw’r broses Mesurau Arbennig yn addas i’w bwrpas’ – Mabon ap Gwynfor AS
Mae safonau diffygiol yn y Gwasanaeth Iechyd wedi cael ei normaleiddio dan Lafur, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS mewn ymateb i ddatganiad ar drefniadau uwch gyfeirio ac ymyrryd cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (Dydd Mawrth 16 Rhagfyr 2025) i Fyrddau Iechyd.
Mae pob un Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn parhau mewn rhyw fath o drefniant esgeliad ac ymyrraeth – gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn codi o lefel 3 i 4.
Mae Mr ap Gwynfor wedi dweud fod y sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dangos fod y broses Mesurau Arbennig ddim yn addas i’w bwrpas, gyda’r bwrdd iechyd yn parhau ar Lefel 5 am bron i dair blynedd – gan roi argraff gamarweiniol fod yr heriau sy’n wynebu Betsi heb waethygu.
Mae llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal cymdeithasol wedi beirniadu Llafur am eu camreolaeth o’r gwasanaeth iechyd, a dywedodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn adolygu’r fframwaith mesurau arbennig er mwyn sicrhau nad yw safonau diffygiol yn cael ei dderbyn yn rhagor.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
“Mae safonau diffygiol yn ein system iechyd wedi’i normaleiddio dan Lafur. Mae mesurau arbennig – mesur dylai cael ei ddefnyddio fel cam olaf – wedi dod yr arfer, a phobol Cymru sy’n talu’r pris.
“Mae’r blaid Lafur yn amlwg ddim efo’r capasiti na’r weledigaeth i dacluso’r llanast maen nhw ei hunain wedi creu. Mae dim llai na chwe unigolyn ar feinciau Llafur sydd wedi bod yn Weinidogion Iechyd at ryw adeg yn y chwarter canrif ddiwethaf – gan gynnwys dau cyn-Brif Weinidogion a’r Prif Weinidog presennol. Yr unig gysondeb yw eu methiant i fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd.
“Mae hwn wedi’i uwcholeuo gan Betsi sydd nawr mewn mesurau arbennig.
“Mae’n ymweld fel nad oes nenfwd i gamreolaeth Lafur o’n system iechyd ac mae sefyllfa Betsi yn dangos nad yw’r broses Mesurau Arbennig yn addas i’w bwrpas.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn adolygu’r fframwaith mesurau arbennig a chryfhau rôl Gweithrediaeth GIG Cymru – fel nad yw safonau diffygiol yn ein gwasanaeth iechyd ddim yn cael ei chaniatáu mwyach. Mae’n bryd am arweinyddiaeth newydd i’r system iechyd, i sicrhau bod y gwasanaeth yno i’r rheiny sydd ei angen.”