Plaid Cymru yn herio awgrym Llafur bod cyhoeddiad o ffermydd gwynt ar y môr yn ‘gyfiawnhad’ dros gadw pwerau Ystad y Goron yn San Steffan

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Ynni yn San Steffan, Llinos Medi AS, wedi dadlau yn erbyn awgrym Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod cyhoeddiad newydd ar brosiectau gwynt ar y môr yn “gyfiawnhad” dros gadw pwerau Ystad y Goron yn San Steffan.
Nododd Ms Medi nad yw datganoli Ystad y Goron wedi rhwystro datblygiad prosiectau ynni adnewyddadwy yn yr Alban, sy’n datblygu 19 o brosiectau gwynt ar y môr o dan Ystad y Goron ddatganoledig yr Alban.
 
Heddiw, cyhoeddodd Ystad y Goron ei bod yn barod i weithio mewn partneriaeth ag Equinor a Gwynt Glas – menter ar y cyd rhwng EDF Renewables UK ac ESB – i ddatblygu ffermydd gwynt sy’n arnofio oddi ar arfordiroedd Gorllewin Cymru a De-orllewin Lloegr.
Awgrymodd AS Plaid Cymru hefyd nad oedd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi bod yn “effeithiol” wrth lobïo ei chydweithwyr yn Llundain ar ddatganoli Ystad y Goron. Fis diwethaf, dywedodd y Farwnes Morgan y byddai datganoli'r ystadau yn caniatáu i Gymru elwa o ynni adnewyddadwy yn y Môr Celtaidd, “Gwelsom nhw'n cymryd ein glo. Gwelsom nhw'n cymryd ein dŵr. Ni fyddwn yn gadael iddyn nhw gymryd ein gwynt, nid y tro hwn, nid dan fy ngofal i.”
 
Dywedodd llefarydd Ynni Plaid Cymru yn San Steffan, Llinos Medi AS: 
“Tan ein bod ni’n datganoli Ystad y Goron i Gymru, bydd y broses o echdynnu cyfoeth o adnoddau naturiol Cymru yn parhau.
 
“Gwnaeth Prif Weinidog Llafur Cymru araith fawr na fyddai hi'n gadael i San Steffan ‘gymryd ein gwynt’. Mae'n amlwg nad yw'r ymdrechion hynny wedi bod yn effeithiol, gan y bydd y ffioedd a'r elw o'r cyhoeddiad hwn yn cael eu rhoi i'r Trysorlys yn Whitehall yn hytrach na'u cadw ar gyfer pwrs cyhoeddus Cymru er budd ein cymunedau. 
“Ni fyddai datganoli Ystad y Goron yn rhwystro datblygiad prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, fel mae’r Alban wedi dangos, sy'n datblygu 19 o brosiectau gwynt ar y môr o dan Ystad Goron ddatganoledig.”