Rhaid i Lywodraeth y DU "fynd ymhellach" na chydnabod gwladwriaeth Palesteina – Arweinydd Plaid Cymru
Wrth i Lywodraeth y DU gydnabod Gwladwriaeth Palestina heddiw (dydd Sul 21 Medi 2025), mae Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi annog y Prif Weinidog i "fynd ymhellach" a gosod sancsiynau llym yn erbyn Llywodraeth Israel yng ngoleuni'r erchyllterau parhaus yn erbyn sifiliaid yn Gaza.
Wrth barhau i alw am ryddhau gwystlon ar unwaith, mae Plaid Cymru yn ailadrodd ei galwad hirsefydlog am gydnabod Palesteina ar unwaith ac yn ddiamod yn ogystal â rhoi terfyn ar werthu arfau i Israel, ac yn galw ar y DU i osod y sancsiynau canlynol:
- Atal cytundeb masnach presennol y DU gydag Israel
- Atal Map Ffordd 2030 ar gyfer partneriaeth agosach rhwng y DU ac Israel
- Sancsiynau ar bob unigolyn sy'n cael ei amau o dorri cyfraith ryngwladol
- Gwahardd mewnforio nwyddau o Aneddiadau Israel anghyfreithlon ym Mhalesteina
Yn gynharach yr wythnos hon, daeth comisiwn ymchwilio y Cenhedloedd Unedig i'r casgliad bod Israel yn cyflawni hil-laddiad yn erbyn Palestiniaid yn Gaza.
Wrth groesawu penderfyniad hwyr Llywodraeth y DU i gydnabod gwladwriaeth Palesteina – rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu drosto ers amser maith – beirniadodd Rhun ap Iorwerth Keir Starmer am "eistedd ar ei ddwylo" yn hytrach na gosod sancsiynu Israel a atal gwerthu arfau.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:
"Gyda Llywodraeth y DU ar fin cydnabod Gwladwriaeth Palesteina o'r diwedd – rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu drosto ers amser maith – nid yw hyn ar ei ben ei hun yn ddigon i ddal Israel i gyfrif na rhoi terfyn ar y dioddefaint yn Gaza.
"Rhaid i'r Prif Weinidog fynd ymhellach i ddal Llywodraeth Israel i gyfrif am ei hil-laddiad parhaus yn erbyn sifiliaid yn Gaza trwy osod sancsiynau ac atal gwerthu arfau i’r wlad.
"Mae Keir Starmer wedi eistedd ar ei ddwylo am rhy hir ar y mater hwn. Yn y cyfamser, mae bywydau diniwed yn cael eu colli bob dydd gyda llawer o blant yn eu plith.
"Mae cydnabod Gwladwriaeth Palestina yn gam pwysig a hanesyddol, ond mae'n un symbolaidd yn bennaf.
"Nid oes unrhyw arwydd bod Llywodraeth Israel yn bwriadu lleddfu ei ymosodiadau ac felly mae angen gweithredu mwy pendant ac ymarferol o hyd, gyda'r nod o atal y trais a sicrhau cadoediad.
"Mae gan y DU gyfrifoldeb moesol a chyfreithiol i sicrhau bod Israel yn cydymffurfio â chyfraith ryngwladol, ac mae angen gweithredu brys i atal trychineb dyngarol pellach yn Gaza."