Rhun ap Iorwerth yn galw am "ail-ffurfio" gwasanaethau iechyd meddwl yn Betsi Cadwaladr

Daeth i’r amlwg fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhyddhau ar gam bron i 1,700 o gleifion o’u gwasanaethau iechyd meddwl oherwydd pandemig Coronafeirws. Gan amcangyfrif i ddechrau yr effeithiwyd ar 200-300 o gleifion, ymddiheurodd y bwrdd iechyd, gan ddweud na ddylasai fod wedi digwydd. Nawr bod y wir raddfa wedi’i ddatgelu, mae Rhun ap Iorwerth AS, wedi holi pam y caniatawyd i hyn ddigwydd, gan alw am ail-ffurfio gwasanaethau iechyd meddwl rhag blaen.  

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mai camddehongli canllawiau Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am hyn, gan ddweud y bwriadant gysylltu â hwy oll dros y dyddiau nesaf, i’w rhoi yn ôl ar restr y cleifion. Mae llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd Rhun ap Iorwerth wedi galw am esboniad o sut y gallai penderfyniad o’r fath fod wedi ei wneud ar draws holl ardal y bwrdd iechyd, a dywedodd “fod angen buddsoddi ar frys i ail-ffurfio’r gwasanaethau iechyd meddwl.”

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS:

"Mae un claf yn cael ei ryddhau cyn pryd yn un claf yn ormod. Mae cael ar ddeall yn awr fod 1,694 o gleifion wedi eu rhyddhau’n gynnar, a hwythau’n dal angen cefnogaeth gan y gwasanaethau iechyd meddwl, yn achos pryder dwys.

"Rwy’n croesawu’r sicrwydd y cysylltir â’r 1,694 claf dros y dyddiau nesaf er mwyn eu rhoi’n ôl ar y rhestr ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn, ond erys y cwestiwn sut y gallai penderfyniad o’r fath fod wedi digwydd ar draws holl ardal y bwrdd iechyd, a sut y gallasai’r canllawiau fod wedi eu ‘camddehongli’ mor eang. Fe dybiwn i y byddai’n eithaf amlwg fod hyn yn annerbyniol.

"Rwy’n meddwl ei bod yn glir fod angen buddsoddiad yn syth i ail-ffurfio gwasanaethau iechyd meddwl."