Plaid Cymru yn addo brwydro dros ariannu teg, strydoedd mwy diogel, a phwerau dros gyfiawnder wrth lansio maniffesto etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Mae pleidlais i Blaid Cymru yn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar yr 2il o Fai yn bleidlais dros ariannu teg, strydoedd mwy diogel, a system gyfiawnder Gymreig a fydd yn gwasanaethu cymunedau Cymru yn well, meddai Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth.

Bydd Plaid Cymru yn lansio eu Maniffesto Etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn Yr Egin, Caerfyrddin yn ddiweddarach heddiw (Dydd Llun 15 Ebrill 2024).

Prif flaenoriaethau maniffesto'r blaid yw:

  • Ariannu Teg i Heddluoedd Cymru
  • Gwasanaeth Heddlu Mwy Gweladwy
  • Ffordd Gymreig o Blismona - Datganoli Pwerau Cyfiawnder Troseddol Llawn i Gymru

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae degawd o doriadau Torïaidd wedi gadael ein gwasanaeth heddlu wedi ei danariannu – gyda Chymru’n cael llai na’i chyfran deg o gyllid yr heddlu fesul pen o’r boblogaeth. Mae’r heriau hyn wedi’u gwaethygu gan benderfyniad y llywodraeth Lafur i leihau nifer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a thorri cyllid ar gyfer Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru.

“Mae Llafur a’r Torïaid wedi methu Cymru ar gyfiawnder a phlismona. Nid yw’r naill na’r llall wedi addo datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, er gwaethaf tri adroddiad annibynnol mawr yn argymell trosglwyddo pwerau cyfiawnder troseddol yn llawn i Gymru er mwyn creu system decach.

“Dyw Plaid Cymru ddim yn credu bod hyn cystal ag y mae’n ei gael. Mae ein maniffesto nid yn unig yn rhaglen uchelgeisiol ac eang o bolisïau gyda thegwch yn ganolog iddi, ond yn ddatganiad o egwyddorion mai yn nwylo Cymru y mae cyfiawnder Cymreig yn cael ei wasanaethu orau.

“Rydym yn credu mewn adeiladu ffordd Gymreig o blismona – gyda ffocws ar atal trosedd ac amddiffyn dioddefwyr; ariannu tecach i’n heddluoedd, a sicrhau bod yr heddlu’n bresennol, yn weladwy, yn ddibynadwy ac yn effeithiol, mewn cymunedau ledled Cymru.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS,

“Mae’r etholiad hwn yn gam hollbwysig tuag at greu system blismona Gymreig sy’n wirioneddol wasanaethu pobol Cymru. Gallwn ethol Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sy’n deall yr angen am blismona sydd ag adnoddau da, sy’n canolbwyntio ar y gymuned, ac sy’n atebol i bobl Cymru.

“Mae gan Dafydd Llywelyn record rhagorol yn Nyfed-Powys. Mae ei fentrau, megis cyflwyno teledu cylch cyfyng mewn trefi ar draws y rhanbarth, sefydlu tîm troseddau gwledig, a chynyddu nifer y swyddogion heddlu a staff, yn dangos ymrwymiad i gyflawni addewidion.

“Ar 2 Mai, mae gennym ni’r cyfle i adeiladu ar y llwyddiannau hyn ledled Cymru drwy ethol mwy o Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Plaid Cymru, ac i ddangos bod plismona’n gweithio’n effeithiol pan gaiff ei arwain o fewn ein cymunedau – nid o dan gyfarwyddyd San Steffan.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Plaid Cymru Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn:

“Mae wedi bod yn anrhydedd gwasanaethu fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys dros yr wyth mlynedd diwethaf. Gwn â’m llygaid fy hun beth mae’n ei olygu i weithio i wneud ein trefi a’n cymunedau’n fwy diogel, a’r heriau y mae’r gwaith hwn yn eu cynrychioli.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd - mae pandemig Covid wedi cael ei ddilyn ar unwaith gan argyfwng costau byw. A hyn yn sgil mwy na deng mlynedd o doriadau a orfodwyd gan y Torïaid sydd wedi gwanhau ein gwasanaethau cyhoeddus.

“Er gwaethaf yr heriau hyn, rwy’n falch fy mod, serch hynny, wedi gallu cyflawni blaenoriaethau ein cymunedau ar gyfer plismona. Mae 150 yn fwy o swyddogion heddlu yn cael eu cyflogi ar draws Dyfed-Powys nag oedd yn 2016; mae buddsoddi mewn teledu cylch cyfyng wedi'i gwneud hi'n haws canfod a datrys troseddau; ac mae Tîm Troseddau Gwledig penodol wedi gwella ymateb yr heddlu i'r materion sy'n effeithio ar ein cymunedau gwledig. Cyflawnwyd hyn oll gyda lefelau Treth y Cyngor is o gymharu â phob Heddlu arall yng Nghymru.

“Os caf fy ailethol, fy addewid yw adeiladu ar y record hon o gyflawni – byddaf yn gweithio i sicrhau ein bod yn amddiffyn plismona cymdogaeth a chymuned; buddsoddi yn ein gwasanaeth 999 a 101; mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a pharhau i flaenoriaethu anghenion ein cymunedau gwledig.

Mae'r maniffesto ar gael i'w ddarllen yma.