Plaid yn galw ar asesiadau athrawon yn lle arholiadau ar gyfer haf 2021

Mae Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllïan AS wedi ailadrodd galwadau i gael gwared ar arholiadau haf 2021 a rhoi yn eu lle asesiadau athrawon.

Gydag amharu ar addysg eisoes yn cael ei deimlo ar draws ysgolion yng Nghymru, wrth i nifer o athrawon a disgyblion orfod hunan-ynysu, a gofyn i ddisgyblion ysgolion uwchradd hŷn aros gartref yn ystod y 'cyfnod clo byr', mae Sian Gwenllïan AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i symud yn gyflym i gyhoeddi y bydd arholiadau haf 2021 yn cael eu canslo.

Mynegodd Ms Gwenllïan ei phryderon ynghylch lles pobl ifanc yn ystod y cyfnod gan ddweud fod “pryder am arholiadau yn un haen ychwanegol o bryder y gellid ei hepgor mor hawdd.”

Heddiw (dydd Mercher) bydd Plaid Cymru yn arwain dadl yn y Senedd ar ‘Ddyfodol Addysg’ lle bydd y Blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi y bydd pob arholiad yn haf 2021 yn cael ei ganslo.

Dywedodd Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllïan AS,

“Os nad oedd eisoes yn amlwg o’r niferoedd uchel o ddisgyblion sy’n gorfod hunan-ynysu, dylai fod yn amlwg o’r cyhoeddiad yr wythnos hon y bydd y flwyddyn ysgol 2020/21 yr un mor anodd – os nad yn anos - na’r flwyddyn academaidd ddiwethaf.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw helbul canlyniadau Lefel-A haf 2020 yn cael ei ailadrodd trwy wneud datganiad ar unwaith na fydd arholiadau’n cael eu cynnal yn haf 2021. Mae’r pandemig eisoes wedi dangos i ni fod system sy’n seiliedig ar asesiadau athrawon yn bosibl, a byddai penderfyniad nawr i ganslo arholiadau'r flwyddyn nesaf yn caniatáu amser i drafod a chytuno ar broses safoni ystyrlon.

“Rhaid i arholiadau TGAU a Lefel-A fynd. Mae'r dull 'un maint i bawb' yn arbennig o annheg ar y disgyblion sydd wedi colli llawer o ysgol trwy orfod hunan-ynysu, ac ar gyfer y disgyblion ysgol uwchradd hŷn a fydd yn gorfod aros gartref o dan reolau'r 'cyfnod clo byr' cenedlaethol.

“Rhaid i ni beidio â diysytru’r effaith y mae’r aflonyddwch hwn yn ei gael ar iechyd meddwl a lles ein disgyblion.

“Mae’r pryder am arholiadau yn un haen ychwanegol o bryder y gellid ei hepgor yn hawdd. Byddai gwneud y penderfyniad yr wythnos hon - cyn y cyfnod clo byr - i ganslo arholiadau’r flwyddyn nesaf yn osgoi llanast Safon Uwch arall a thro pedol munud olaf a welsom y llynedd nad oedd o fudd i neb. Byddai’n gam mawr wrth leddfu peth o’r pryder a brofir gan bobl ifanc ar yr adeg hon o argyfwng cenedlaethol.”