Mae Plaid Cymru wedi galw am godiadau cyflog i holl staff y GIG a staff gofal cymdeithasol fel cydnabyddiaeth o’u gwaith yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC fod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn peryglu eu bywydau er ein lles ni yn yr argyfwng hwn, ac mai’r “lleiaf y gellid ei wneud” fyddai codi eu cyflogau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd cysgodol y dylai staff gofal gael “cydraddoldeb cyflog” gyda staff y GIG, trwy symud yr holl staff gofal cymdeithasol i delerau ac amodau’r GIG.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai hyn yn golygu “codiad cyflog i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal iechyd” ac y byddai’n rhoi terfyn ar gontractau dim oriau a gweithio achlysurol.

Ychwanegodd Mr ap Iorwerth fod gweithwyr y GIG hefyd yn “haeddu gwell” ac ar ôl “degawd o rewi cyflogau a thoriadau mewn termau real”, y dylid rhoi codiadau mewn termau real “i bawb”.

Ychwanegodd y dylai hynny gynnwys “addysgedau go-iawn i fyfyrwyr nyrsio” ac amser hyfforddi wedi ei warchod.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd cysgodol ei fod yn gobeithio mai’r peth cadarnhaol” a ddeuai allan o’r “hunllef” hon fyddai cydnabyddiaeth a rhoi gwerth ar wasanaethau iechyd a gofal a sylweddoli “fod yn rhaid i ni dalu amdanynt yn iawn”.

Meddai Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC,

“Mae’r argyfwng hwn yn wir wedi codi’r llen ar effaith toriadau creulon flwyddyn ar flwyddyn, a’r ffordd yr edrychir ar ofal cymdeithasol fel gwasanaeth eilradd. Gyda’r clefyd yn rhemp mewn llawer o gartrefi gofal, allai’r angen am delerau ac amodau gwell o lawer a gweithlu a werthfawrogir ddim bod yn gliriach. Beth petai pob cartref gofal wedi cael CGP o’r cychwyn? Faint o fywydau fyddai wedi cael eu harbed?

“Mae Plaid Cymru felly yn galw am i’r holl staff gofal gael cydraddoldeb tâl ac amodau gyda staff y GIG trwy symud staff gofal cymdeithasol i delerau ac amodau’r GIG. Byddai hyn yn golygu codiad cyflog i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol, yn ogystal â rhoi terfyn o’r diwedd ar gontractau dim oriau a gweithio achlysurol.

“Mae gweithwyr ein GIG hefyd yn haeddu gwell.  Wedi degawd o rewi cyflogau a thoriadau mewn termau real oherwydd llymder, rhaid i ni dreulio’r degawd nesaf yn gwneud y gwrthwyneb a rhoi codiadau mewn termau real i bawb – yn ogystal â sicrhau addysgedau go-iawn i fyfyrwyr nyrsio ac amser hyfforddi wedi ei warchod.

“Rhaid i ni hefyd wrthdroi’r toriadau sydd wedi digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn i lywodraeth leol er mwyn gwneud yn siŵr eu bod hwythau hefyd yn cael y cyllid iawn i dalu’n briodol i’w staff gofal.

“Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn peryglu eu bywydau er ein lles ni yn yr argyfwng hwn. Y lleiaf y gallwn ni wneud yw dangos ein bod yn rhoi gwerth arnynt trwy ei gwneud yn rhwydd iddynt gael profion, cael CGP digonol, codi eu cyflog a gwella eu hamodau gwaith.

Rwy’n gobeithio mai’r peth cadarnhaol ddaw allan o’r hunllef hon yw i ni gofio gymaint yr ydym yn trysori ein gwasanaethau iechyd a gofal, ond y sylweddolwn hefyd fod yn rhaid iddynt dalu’n iawn amdanynt. Os ydym eisiau gwasanaeth iechyd a gofal da a chynaliadwy, mae’n rhaid i ni dalu amdano. Mae arnom angen yr adnoddau iawn, y bobl iawn, yn cael eu talu’n iawn, heb orfod ysgwyddo baich gwaith anghynaladwy.