Mae Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS heddiw wedi nodi canmlwyddiant ei blaid drwy ddweud bod newid arweinyddiaeth i Gymru yn "hanfodol" ar ôl etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf er mwyn diogelu dyfodol y genedl a chyflawni ei photensial llawn.

Gan gyfeirio at fygythiadau blynyddoedd o "fethiant pellach" o dan Lafur ac "anhrefn llwyr" gyda Reform, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS mai dim ond Plaid Cymru sy'n cynrychioli llywodraeth amgen gredadwy sy'n cynnig dechrau newydd i Gymru.

Wrth siarad o'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam lle bydd y blaid yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru:

"Mae Plaid Cymru wedi bod yn sefyll dros Gymru ers 100 mlynedd. Nid ydym erioed wedi cyfaddawdu pan ddaw i wneud yr hyn sy'n iawn i'n cenedl a'i chymunedau ac mae'n fraint i mi allu dweud hynny fel Arweinydd.

"Trwy gydol ei bodolaeth, mae Plaid Cymru wedi aros yn driw i'w gwerthoedd tra bod pleidiau eraill wedi cyfaddawdu ar eu gwerthoedd yn enw ennill grym.

"Heddiw, rwy'n talu teyrnged i bawb sydd wedi chwarae rhan yng nghyfraniad ein mudiad i fywyd cyhoeddus Cymru, mudiad a dyfodd o'n cymunedau, er mwyn ein cymunedau.

"Mae etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf yn cynnig cyfle i ddod â newid go iawn. Mae'r newid hwnnw o arweinyddiaeth i Gymru yn hanfodol os ydym am ddiogelu dyfodol ein cenedl rhag blynyddoedd yn fwy o fethiant o dan Lafur neu anhrefn llwyr gyda Reform.

"Mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar gynnig y math o arweinyddiaeth y mae pobl Cymru yn ei haeddu ac ei angen. Llywodraeth uchelgeisiol gyda syniadau newydd ar sut i dorri rhestrau aros, helpu aelwydydd gyda chostau byw, cefnogi busnesau a sicrhau nad yw llais Cymru yn cael ei anwybyddu gan San Steffan.

"Boed ar HS2, lles, rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol neu'r anghyfiawnder oesol o sut mae Cymru yn cael ei ariannu, nid oes unrhyw blaid yn Llundain erioed wedi rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf. Dyna pam mae Plaid Cymru yn wahanol.

"Ni fyddai llywodraeth Plaid Cymru, pe bai'n cael ei hethol fis Mai nesaf, yn plygu i Keir Starmer ond byddai'n mynnu setliad tecach i Gymru ar bob cam.

"Y dewis amgen yw pedair blynedd arall o Lafur yn methu â chyflawni gan wneud esgusodion dros eu meistri yn San Steffan, neu Reform a’u geiriau gwag sy’n malio dim am Gymru.”