Plaid Cymru ar y blaen yng Nghymru wrth i gefnogaeth i Lafur blymio mewn pôl newydd
Mae Plaid Cymru ar y blaen yn yr arolygon barn yng Nghymru ar gyfer etholiad y Senedd sydd ar ddod, gyda Llafur yn cwympo ymhellach ar ei hôl hi, yn ôl pôl barn newydd gan ITV Cymru Wales.
Mae pôl Barn Cymru, a gynhaliwyd gan YouGov ar gyfer ITV Cymru Wales a Phrifysgol Caerdydd, wedi datgelu bod cyfran o bleidlais Llafur ar gyfer y Senedd bellach ar ei hisaf ar 14%, tra bod Plaid Cymru yn parhau i arwain yr arolygon barn gyda 30%. Mae Reform UK ar 29% o’r gyfran bleidlais gyfredol.
Cynhelir etholiad cyffredinol y Senedd ar 7 Mai 2026.
Mae’r pôl hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod cefnogaeth i Keir Starmer wedi plymio, gyda 62% o’r rhai a holwyd yn credu ei fod yn gwneud yn wael fel Prif Weinidog.
Bwriad pleidleisio’r Senedd:
(Model MRP YouGov)
- Plaid 30% (n/c)
- Reform UK 29% (+4)
- Llafur 14% (-4)
- Ceidwadwyr 11% (-2)
- Democratiaid Rhyddfrydol 6% (-1)
- Gwyrdd 6% (+1)
- Arall 4% (+2)
Rhagamcan Sedd Dr Jac Larner
- Plaid Cymru - 38
- Reform UK - 37
- Llafur - 11
- Ceidwadwyr - 6
- Democratiaid Rhyddfrydol - 3
- Gwyrdd – 1
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,
“Dewch i ni fod yn glir, mae’r dewis yn yr etholiad nesaf yn amlwg – mae rhwng plaid Reform sy’n malio dim am Gymru ac a fyddai’n preifateiddio ein gwasanaeth iechyd, neu lywodraeth Plaid Cymru o blaid Cymru fydd yn sefyll dros Gymru ac yn cyflawni newid go iawn er gwell i’n cymunedau.
“Mae cefnogaeth Llafur yn cwympo achos bod pleidleiswyr eisiau newid.
“Mae pobl yn edrych tuag at Blaid Cymru am ddyfodol gwell i’n gwlad – un sy’n cael ei yrru gan werthoedd Cymreig, fydd yn cyflawni go iawn ac yn sefyll dros degwch i Gymru o San Steffan.
“Rydym yn annog pawb sydd eisiau gweld y math cywir o newid – i gefnogi’r unig ddewis credadwy ar gyfer llywodraeth bositif, o blaid Cymru drwy gefnogi Plaid Cymru.