Greenpeace yn canmol 'set gref a chynhwysfawr o bolisïau i gyflawni ar hinsawdd a natur i Gymru'
Mae Plaid Cymru wedi cael ei rhestru uchaf ar draws pob maes polisi mewn dadansoddiad newydd o faniffestos y blaid gan Greenpeace, sy'n disgrifio cynlluniau Plaid fel rhai "difrifol" a "chyffrous" ac yn gallu gwneud Cymru yn "bencampwr hinsawdd a natur y DU."
Mae'r dadansoddiad yn tynnu sylw at y ffaith mai Plaid Cymru yw'r unig blaid yng Nghymru i ymrwymo i darged clir o gyrraedd sero net erbyn 2040, ochr yn ochr â bod yr unig blaid i addo dileu plastigau untro diangen yn raddol.
Canmolodd Greenpeace hefyd ddull cynhwysfawr Plaid Cymru o adeiladu economi fwy gwyrdd, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus integredig sy'n blaenoriaethu pobl a'r blaned dros elw cyfranddalwyr, a thrawsnewidiad cyfiawn sy'n amddiffyn gweithwyr wrth greu cyfleoedd newydd mewn ynni adnewyddadwy.
Cafodd ymrwymiad y blaid i sicrhau bod 15-25% o brosiectau ynni adnewyddadwy yn eiddo i gymunedau lleol ei nodi hefyd fel cryfder allweddol, gan helpu i gadw manteision y trawsnewid gwyrdd yng Nghymru.
Daeth Greenpeace i'r casgliad bod maniffesto Plaid Cymru wedi'i "feddwl trwodd yn dda" ac, os caiff ei weithredu, y gallai gyflawni newid trawsnewidiol.
Mae'r gydnabyddiaeth hon yn ychwanegu at ganmoliaeth gan Gyfeillion y Ddaear, a groesawodd darged sero net Plaid Cymru ar gyfer 2040 fel "cam croesawgar iawn sy'n mynd ymhellach ac yn gyflymach na tharged 2050, gan osgoi'r targed 2035 sydd bellach yn afrealistig."
Mae polau piniwn yn dangos bod etholiad y Senedd yn ras agos rhwng Plaid Cymru a Reform UK, y mae Greenpeace wedi disgrifio eu maniffesto fel un "peryglus i'r hinsawdd, i natur ac i'r economi" ac yn "rant yn erbyn unrhyw beth y gellid ei ystyried yn gyfeillgar i'r amgylchedd".
Dywedodd prif ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghaerdydd Ffynnon Taf, Dafydd Trystan:
"Mae dadansoddiad Greenpeace yn cadarnhau mai Plaid Cymru sydd â'r cynllun mwyaf uchelgeisiol a chredadwy i fynd i'r afael a'r argyfyngau hinsawdd a natur yng Nghymru. Ochr yn ochr â Friends of the Earth yn croesawu’n targed Net Sero o 2040, mae'n glir dylai pleidleisiwr sy'n poeni am yr amgylchedd cefnogi Plaid Cymru'r etholiad hwn.
 
"Ni yw'r unig blaid sydd yn gosod targed Net Sero, ac rydym yn sicrhau fod yr uchelgais hwnnw yn cyd-fynd a chamau cadarnhaol - buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, cefnogi gweithwyr mewn i swyddi gwyrdd, a sicrhau fod ein cymunedau yn buddio yn uniongyrchol o ynni adnewyddadwy. 
 
"Ras dau geffyl yw'r etholiad hwn, rhwng Plaid Cymru a Reform UK, i arwain y Llywodraeth Cymru nesaf. Mae'n ddewis rhwng plaid fyddai'n gwneud Cymru yn bencampwr y DU am hinsawdd a natur, ac un fyddai'n cael gwared ag ymrwymiadau hinsawdd ac ynni adnewyddadwy.
 
"Dylai pleidleisiwyr sydd eisiau'r gorau am ein planed uno tu ôl i gynllun beiddgar Plaid Cymru i atal Reform rhag tynnu Cymru am yn ôl."