Cynllun y Blaid yn galw am fabwysiadu model Seland Newydd o ostwng y nifer ‘R’, atal achosion a gostwng nifer y marwolaethau y mae modd eu hosgoi i “sero”

Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price heddiw wedi datgelu cynllun 7-pwynt ei blaid i adfer wedi’r Coronafeirws sy’n galw ar i Gymru fabwysiadu model Seland Newydd o ostwng y nifer ‘R’, atal achosion a gostwng nifer y marwolaethau y mae modd eu hosgoi i sero.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, unwaith i nifer yr achosion newydd lwyddo i gael eu hatal yn genedlaethol, yna y byddai modd mabwysiadu agwedd “fwy lleol” gyda’r gallu i “ail-osod mesurau cloi” er mwyn ymateb yn sydyn os daw clystyrau newydd i’r fei.

Dywedodd Mr Price er mwyn symud yn ddiogel ymlaen i’r cam nesaf i adfer, y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru “newid gêr” a chadw at eu haddewid i “gynyddu profi ac olrhain”.

Ar ddydd Gwener, estynnodd Llywodraeth Cymru y cyfnod cloi am 3 wythnos arall gyda rhai addasiadau “bychain a chymedrol”.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS, tra bod cyfradd drosglwyddo’r Coronafeirws yn dal yn “frawychus o uchel”, y dylai’r neges i aros adref ac arbed bywydau gael ei anfon  yn “uchel ac yn glir”.

Heddiw, bydd y Prif Weinidog yn amlinellu unrhyw newidiadau i’r cloi yn Lloegr.

Ychwanegodd Mr Price petai’r Prif Weinidog yn “mynnu” llacio’r cloi yn Lloegr, yna “efallai y byddai angen” cyfyngiadau teithio a osodwyd yng Nghymru a rhwng Cymru a rhannau eraill y DG er mwyn osgoi “effaith a allai fod yn drychinebus” ar gymunedau Cymreig.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS,

“Gyda chyfradd drosglwyddo’r Coronafeirws yn frawychus o uchel, dylai’r neges i aros adref gael ei anfon yn uchel ac yn glir. Dyma’r unig ffordd i arbed bywydau. Trwy barchu’r cloi, byddwn yn dod yn ôl i drefn yn gynt.”

“Os bydd y Prif Weinidog yn mynnu llacio’r cloi yn Lloegr, efallai y bydd angen cyfyngiadau teithio a osodwyd yng Nghymru a rhwng Cymru a rhannau eraill y DG er mwyn osgoi effaith a allai fod yn drychinebus” ar ein cymunedau.”

“Mae cynllun saith-pwynt Plaid Cymru yn canoli ar barhau gyda’r cloi.

“Pan fydd nifer yr achosion newydd wedi eu hatal yn llwyddiannus yn genedlaethol, yna byddai modd mabwysiadu agwedd fwy lleol, gyda’r gallu i ail-osod mesurau cloi yn sydyn i ymateb os daw clystyrau newydd i’r fei.

“Rhaid canoli pob ymdrech bellach ar ostwng y rhif R – cyfradd atgynhyrchu’r feirws – i ostwng nifer y marwolaethau y mae modd eu hosgoi i sero. Dyma’r model a fabwysiadwyd mor llwyddiannus gan Seland Newydd.

“Er mwyn symud yn ddiogel i’r cam nesaf ar y llwybr i adfer, mae angen i Lywodraeth Cymru newid gêr, rhoi’r gorau i esgusodion a chadw at yr addewidion i gynyddu profi ac olrhain.”