Cwestiynau Prif Weinidog: ‘Sut allwn ni ymddiried yn Starmer i aros yn Brif Weinidog?’ - Liz Saville Roberts
Heriodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan y Prif Weinidog ynghylch cysylltiadau Mandelson ag Epstein
Yn ystod Cwestiynau Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher 4 Chwefror) gofynnodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, i Syr Keir Starmer sut y gall pobl ymddiried yn ei farn ac felly ymddiried ynddo i aros yn Brif Weinidog ar ôl penodi Peter Mandelson, er iddo fod yn ymwybodol o’i gysylltiadau â’r pedoffeil a’r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.
Dywedodd Ms Saville Roberts fod dioddefwyr a goroeswyr Epstein a’i gylch o “elitiaid gorfreintiedig” ar flaen ei meddwl.
Pwysleisiodd Liz Saville Roberts AS fod y Prif Weinidog eisoes yn ymwybodol o gysylltiad Peter Mandelson â Jeffrey Epstein pan benododd ef yn llysgennad y DU i’r UDA.
Diswyddodd Syr Keir Starmer Peter Mandelson o'i swydd fel llysgennad y DU i'r UDA ym mis Medi 2025 ar ôl i e-byst a rannwyd ddangos bod Mandelson yn dangos cefnogaeth i Jeffrey Epstein ac yn lleihau euogfarn Epstein yn 2008.
Cynhaliodd Peter Mandelson gyfeillgarwch agos â Jeffrey Epstein ar ôl ei euogfarn o droseddau rhyw yn erbyn plant. Disgrifiodd Mandelson ryddhau Epstein o'r carchar ar ôl ei ddedfrydu am y troseddau hyn fel "Diwrnod Rhyddid".
Wrth siarad yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog, dywedodd Liz Saville Roberts AS:
"Mae dioddefwyr a goroeswyr Epstein a'i gylch o elitiaid gorfreintiedig ar flaen fy meddwl.
"Rydyn ni'n gwybod nawr fod Mandelson wedi disgrifio rhyddhau Epstein o'r carchar ar ôl cael ei ddedfrydu am droseddau rhyw yn erbyn plant fel 'Diwrnod Rhyddid'.
"Roedd y Prif Weinidog yn ymwybodol o gysylltiad y dyn hwn ag Epstein pan benododd ef yn bersonol yn llysgennad y DU i'r UDA.
"Sut allwn ni ymddiried ym marn y Prif Weinidog ac wrth gwestiynu hynny, sut allwn ni ymddiried ynddo i aros yn Brif Weinidog?"
Yn ei ymateb, dywedodd y Prif Weinidog na ddatgelwyd hyd a lled y berthynas rhwng Mandelson ac Epstein a honnodd fod Mandelson wedi dweud celwydd drwy gydol y broses.