PMQs: Liz Saville Roberts yn galw am ragor o bwerau i ‘gyflawni dymuniadau democrataidd Cymru’
Prif Weinidog yn dweud y bydd yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru gan mai ‘dyna'r peth iawn i'w wneud i gyflawni dros Gymru’
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher 3 Mehefin) galwodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS ar Lywodraeth y DU i “gyflawni dymuniadau democrataidd pobl Cymru” drwy roi mwy o bwerau i Gymru.
Galwodd Ms Saville Roberts ar Lywodraeth y DU i roi pwerau i Gymru dros ein adnoddau naturiol ac arnynt i fynd i’r afael â blynyddoedd o esgeulustod drwy sicrhau bod Cymru’n derbyn y cyllid sy’n ddyledus iddi gan HS2, sydd bellach yn £5.9 biliwn. Galwodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan hefyd am setliad ariannol newydd sy’n adlewyrchu anghenion Cymru.
Mewn ymateb i gwestiwn Liz Saville Roberts, dywedodd y Prif Weinidog y bydd yn gweithio'n adeiladol gyda Prif Weinidog Cymru a gyda'r Llywodraeth yng Nghymru. Dywedodd mai dyna'r "peth iawn i'w wneud i gyflawni dros Gymru".
Cafodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog newydd Cymru, sgwrs ffôn gyda Phrif Weinidog y DU ychydig dros bythefnos yn ôl lle gwnaeth yr achos dros fwy o bwerau. Dywedodd Keir Starmer yn ystod y galwad honno ei fod yn "agored i sgwrs" am ddatganoli pellach i'r Senedd.
Gofynnodd Liz Saville Roberts i'r Prif Weinidog droi sgwrs yn "weithredu go iawn".
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:
“Fis diwethaf, fe wnaeth pleidleiswyr Cymru ethol Llywodraeth Plaid Cymru gyda neges glir: tegwch a gobaith.
“Mae hyn yn golygu mynd i’r afael â blynyddoedd o esgeulustod trwy sicrhau cyllid sy’n ddyledus o HS2; setliad ariannol newydd sy’n adlewyrchu anghenion ein cenedl; a mwy o bwerau i Gymru yn enwedig pwerau dros ein hadnoddau naturiol.
“A fyddai’r Prif Weinidog yn ‘agored’ i droi sgwrs yn weithredu go iawn i gyflawni dymuniadau democrataidd pobl Cymru oherwydd nawr yw’r amser i ni weithio gyda’n gilydd yn hytrach na wynebu’r anhrefn sy’n ein bygwth o bob cwr?”
Yn ei ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:
“Hoffwn ddiolch iddi am ei chwestiwn. Gobeithiaf ei bod yn gwybod ond cefais alwad gyda Phrif Weinidog Cymru bythefnos yn ôl ac fe wnes i hi’n glir y byddaf i a’r llywodraeth hon yn gweithio’n adeiladol gyda Prif Weinidog Cymru a gyda’r Llywodraeth yng Nghymru oherwydd dyna’r peth iawn i’w wneud i gyflawni dros Gymru.”