‘Yr unig egwyddor y mae’r Prif Weinidog yn ei hamddiffyn yw'r un diwethaf iddo glywed mewn grŵp ffocws’ – Plaid Cymru

Heddiw, heriodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, y Prif Weinidog Keir Starmer ynghylch ei safbwynt ar fewnfudo, gan ei gyhuddo o gefnu ar egwyddorion er budd gwleidyddol personol.

 

Ymatebodd Keir Starmer drwy ymosod ar Ms Saville Roberts am “siarad nonsens”. Dywedodd AS Plaid Cymru fod ymateb y Prif Weinidog yn dangos ei bod wedi “taro man gwan”, a bod wynebau ASau Llafur yn y siambr yn awgrymu bod “llawer ohonyn nhw’n gwybod ei bod hi’n iawn”.

 

Liz Saville Roberts AS:

“Ar un adeg, roedd y Prif Weinidog hwn yn siarad am fewnfudwyr gyda thosturi ac urddas, gan amddiffyn y rhyddid i symud. Nawr mae'n sôn am ‘ynys o ddieithriaid’ ac ‘adfer rheolaeth’.

“Mae'n rhaid i rywun yn y lle hwn amlygu hyn, Mr Llefarydd. Ymddengys mai'r unig egwyddor y mae'n ei hamddiffyn yw'r un ddiwethaf iddo glywed mewn grŵp ffocws.

“Felly hoffwn ofyn iddo: a oes unrhyw gred sydd ganddo'n para'n hirach nag wythnos yn Downing Street?”

 

Ymatebodd Keir Starmer:

“Oes - y gred ei bod hi’n siarad nonsens. Mr Llefarydd, rwyf am arwain gwlad lle rydym yn tynnu at ein gilydd ac yn cerdded i’r dyfodol fel cymdogion ac fel cymunedau, nid fel dieithriaid. Rhoddodd methiant y Llywodraeth ddiwethaf i gadw rheolaeth ar fudo hynny i gyd mewn perygl - dyna pam rydym yn trwsio’r system, a hynny ar sail egwyddorion o reolaeth, tegwch a thrwy bod yn ddewisol.”

 

Wrth siarad ar ôl y sesiwn, ychwanegodd Liz Saville Roberts AS:

"Dangosodd ymateb y Prif Weinidog fod fy nghwestiwn wedi taro man gwan. Roedd wynebau nifer o ASau Llafur yn dweud cyfrolau - mae llawer ohonyn nhw'n gwybod fy mod i'n iawn. Os yw ei egwyddorion yn newid gyda'r gwynt, does dim syndod bod cefnogaeth Llafur yng Nghymru, fel ledled Prydain, yn gostwng."