Gwelliant Plaid Cymru yn cael ei drechu gan y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Cyffredin

Mae AS Plaid Cymru Hywel Williams wedi dweud fod yr achos dros ddatganoli pwerau dros gyfiawnder yn “gryfach nag erioed” wedi i’r Ceidwadwyr drechu ei Gymal Newydd i’r Mesur Plismona. Byddai Cymal Newydd 19 wedi mynnu bod y Llywodraeth yn cyhoeddi asesiad o effaith y Mesur ar bolisïau a gwasanaethau yng Nghymru o fewn chwe mis o’i basio, ac i gyhoeddi’r cyfryw asesiad o unrhyw newidiadau pellach i reoliadau dan y Mesur ymhen un mis o’u gwneud.

Bydd gan Fesur yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd – Mesur y mae Plaid Cymru wedi ei wrthwynebu yn ei gyfanrwydd – “oblygiadau polisi a chost dwys i wasanaethau datganoledig yng Nghymru”, yn ôl Mr Williams.

Crybwyllodd AS Arfon yr enghraifft o nod y Mesur o gynyddu nifer y bobl yn y carchar trwy gyflwyno dedfrydau hwy. Er bod cyfiawnder wedi ei gadw’n ôl i San Steffan, mae polisïau megis addysg carcharorion, gwasanaethau iechyd meddwl a mesurau i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau, yn gyfrifoldeb y llywodraeth ddatganoledig yng Nghaerdydd. Mae’n anorfod y bydd fframwaith Llywodraeth Cymru i leihau nifer y troseddwyr sy’n dod i mewn i’r system cyfiawnder troseddol trwy ddefnyddio’r polisïau datganoledig yn cael ei danseilio gan y Mesur Plismona. Fodd bynnag, gwrthododd Llywodraeth y DG ymdrin â’r  anghysondeb hwn, gan bleidleisio yn erbyn y Cymal Newydd.

Dywedodd Mr Williams fod Llywodraeth y DG yn eu “hamharodrwydd i ymdrin ag effaith eu polisïau eu hunain” wedi gwneud yr achos dros ddatganoli pwerau dros gyfiawnder yn  “gryfach nag erioed”.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Mr Williams:

“Dyna’n union yw’r system gyfiawnder yng Nghymru –system. Gallai newidiadau i faterion a gedwir yn ôl yng Nghymru a Lloegr gael oblygiadau polisi a chost dwys i wasanaethau datganoledig yng Nghymru. Er enghraifft, pwerau’r Senedd o ran camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a mwy.

“Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn mynnu fod pob deddfwriaeth Gymreig newydd dyn cynnwys asesiad o unrhyw effaith ar y system cyfiawnder a gadwyd yn ôl. Does dim gofyniad cilyddol .  Er hynny, y mae bwlch yn lledu rhwng polisiau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru. Nid yw’r trefniadau presennol yn ddigonol nac yn gynaliadwy.

Wrth gloi ei araith, ychwanegodd  Mr Williams,

“Gan Gymru y mae’r gyfradd uchaf o garcharu yng Ngorllewin Ewrop. Mae pobl dduon chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu carcharu na’u cyfoedion gwyn. Mae bron i hanner y plant o Gymru sy’n cael eu carcharu wedi eu cadw yn Lloegr, ymhell o’u cartrefi. Mae diffyg enbyd o ddarpariaeth gymunedol i fenywod. Mae hyn i fod yn ‘gwasanaethu pobl Cymru yn dda’.

“Daeth Comisiwn yr Arglwydd Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru i’r casgliad y ‘Dylai cyfiawnder gael ei bennu a’i gyflwyno yng Nghymru fel ei fod yn asio â’i bolisïau a gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg gwahanol sy’n datblygu a’r corff cynyddol o gyfreithiau Cymreig’.

“Fel yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yr ateb synhwyrol yw datganoli cyfiawnder. Yn y cyfamser, rhaid i ni wybod beth fydd yr effeithiau yng Nghymru a gaiff newidiadau i gyfraith Cymru a Lloegr trwy asesiadau effaith cywir ar gyfiawnder.”

Wrth siarad wedi’r sesiwn, dywedodd AS Arfon:

“Mae amharodrwydd y Torïaid i ymdrin ag effaith eu polisiau eu hunain ar bobl Cymru yn siomedig ond nid yw’n syndod o gadw mewn cof ymosodiadau diweddar y Llywodraeth hon ar ddatganoli.

“Mae pleidlais heno wedi gwneud yr achos dros ddatganoli pwerau dros gyfiawnder yn llawn yn gryfach nag erioed. Dim ond felly y gallwn adeiladu system gyfiawnder wirioneddol adferol sydd â thrugaredd wrth ei graidd.”