Plaid Cymru i gyflwyno gweledigaeth feiddgar ar gyfer ‘Gymru decach, mwy uchelgeisiol’
Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno gweledigaeth feiddgar a hyderus ar gyfer dyfodol Cymru wrth i'r blaid baratoi i lansio ei maniffesto heddiw a hynny cyn etholiadau’r Senedd.
Yn siarad cyn lansio'r maniffesto, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod y maniffesto yn cynnig ‘arweinyddiaeth newydd i Gymru’ wedi ei wreiddio mewn tegwch, wedi ei yrru gan uchelgais - gyda cyfeiriad clir ar gyfer dyfodol y wlad.
Bydd y maniffesto yn amlinellu'r blaenoriaethau uniongyrchol fydd yn diffinio llywodraeth Plaid Cymru, sef:
- torri amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd
- cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant
- codi safonau mewn addysg
- datgloi potensial llawn economi Cymru
- sefyll yn gadarn dros Gymru i sicrhau bargen decach gan San Steffan.
Bydd y maniffesto hefyd yn cyflwyno gweledigaeth tymor hwy ar gyfer Cymru gryfach, fwy hyderus gan adeiladu economi fwy ffyniannus lle mae cyfleon yn cael ei rhannu ar draws y genedl.
Mae hyn yn cynnwys cynlluniau beiddgar megis defnyddio caffael cyhoeddus i fuddsoddi yn nyfodol busnesau lleol, sicrhau bod Cymru’n elwa o’i hadnoddau ei hun drwy Gronfa Cyfoeth Cymru newydd, a buddsoddi mewn tai drwy uwchraddio ac ôl-osod stoc tai, ac amddiffyn rhentwyr, i wneud cartrefi da yn fwy fforddiadwy.
Bydd Plaid Cymru yn lansio ei maniffesto llawn heddiw (Dydd Iau 9 Ebrill) am 11:00 o’r gloch y bore.
Wrth siarad cyn lansio’r maniffesto, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth,
“Mae Cymru yn genedl â photensial enfawr ond yr hyn sydd ar goll yw llywodraeth sydd â’r uchelgais a’r cynllun i’w wireddu.
“Mae ein maniffesto yn gosod cyfeiriad newydd i Gymru – un sydd wedi’i wreiddio mewn tegwch ond wedi’i yrru gan uchelgais. Mae’n ymwneud ag adeiladu gwlad lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio, lle mae teuluoedd yn cael eu cefnogi, a lle mae gan bawb y cyfle i adeiladu bywyd da.
“Byddwn yn cymryd camau lle mae ei angen fwyaf – torri amseroedd aros y gwasanaeth iechyd, cefnogi rhieni gyda chost gofal plant, codi safonau yn ein hysgolion, a thyfu economi Gymreig gryfach sy’n gweithio i’n cymunedau.
“Ond mae hwn yn fwy na mynd i’r afael a’r hyn sydd ddim yn gweithio fel y dylai. Mae hwn yn ymwneud â’r dyfodol y gallwn ei adeiladu gyda’n gilydd – Cymru hyderus, yn sefyll ar ei thraed ei hun, ac yn barod i lwyddo.
“Mae’r etholiad hwn yn drobwynt. Gallwn barhau â mwy o’r un peth, neu gallwn ddewis llwybr newydd i’n cenedl.
“Mae Plaid Cymru yn barod i arwain y newid hwnnw.”