AS Plaid Cymru Leanne Wood yn galw am fwy o rym dros gyfiawnder yng Nghymru

Mae Plaid Cymru wedi galw eto ar rymoedd llawn dros gyfiawnder troseddol i Gymru ar ôl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi ddoe y bydd gwasanaethau prawf (probation) yng Nghymru a Lloegr yn cael eu trosglwyddo yn ôl i berchnogaeth a rheolaeth gyhoeddus.

Disgrifiodd Leanne Wood AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Gyfiawnder a Throsedd, y penderfyniad gwreiddiol i ran-breifateiddio’r gwasanaeth yn “drychineb” gan ddweud ei bod yn hen bryd “deffro” nawr bod y “freuddwyd o breifateiddio wedi’i chwalu.”

Ddoe, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cyfiawnder y DU y byddai gwasanaethau prawf yng Nghymru a Lloegr yn dychwelyd yn llwyr i'r sector gyhoeddus. Golygai hyn y bydd rheoli troseddwyr, adsefydlu a gwaith di-dâl i gyd yn dod o dan reolaeth y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS), gan ddod â'r diwygiadau preifateiddio a gyflwynwyd yn 2014 i ben.

Dywedodd Leanne Wood MS fod “synnwyr cyffredin” wedi ennill y dydd o’r diwedd.

Croesawodd yr ymgyrchydd cyfiawnder troseddol Nadine Marshall y cyhoeddiad ond dywedodd ei bod yn “ddig” ei fod wedi cymryd cyhyd i weld newid. Cafodd mab 18 oed Nadine, Conner Marshall, ei guro i farwolaeth ym Mhorthcawl yn 2015 gan ymosodwr a oedd ar brawf ar y pryd.

Ychwanegodd Ms Wood fod gan Gymru’r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop a gyda nifer y carcharorion sy’n marw o gam-drin sylweddau wedi cyraedd y lefelau uchaf erioed. Dywedodd fod hyn yn brawf nad oedd system cyfiawnder troseddol Lloegr yn “gweithio i Gymru”.

Adleisiodd Ms Marshall alwad Plaid Cymru am bwerau llawn dros gyfiawnder troseddol “i sicrhau nad oes mwy o deuluoedd yn gorfod dioddef fel fy un i,”.

Dywedodd Leanne Wood MS, Gweinidog Cysgodol Cyfiawnder a Chydraddoldeb Plaid Cymru:

“Mae synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd diwedd. Roedd preifateiddio'r gwasanaeth prawf yn drychineb. Mae bron i hanner yr oedolion sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar yn aildroseddu ac yn dychwelyd i’r carchar yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae'r cylch trosedd hwn yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau Cymru ac mae'n rhaid i ni ofyn - faint o fywydau eraill sy'n rhaid eu colli cyn i hyn gael ei ddatrys?

“Fel y canfu Comisiwn Thomas ar ddatganoli cyfiawnder, mae pobl yng Nghymru yn cael eu siomi gan y system yn ei chyflwr presennol. Nid yw system cyfiawnder troseddol Lloegr yn gweithio. Pe bai Cymru yn rhedeg ei system cyfiawnder troseddol ei hun, gallem ganolbwyntio ar leihau niwed a gwella canlyniadau.

“Mae’r freuddwyd preifateiddio wedi’i chwalu -mae’n hen bryd deffro.

“Efallai na fyddwn ni byth yn deall gwir faint a chost y penderfyniad i breifateiddio’r gwasanaeth prawf yn rhannol, ond mae gennym ni gyfle i ddod â’r rheolaeth yn ôl i Gymru, er budd pawb yng Nghymru.”

Dywedodd Nadine Marshall:

“Rwy’n dal yn ddig ei bod wedi cymryd cyhyd i newid ddigwydd, ond os nad ydym yn gweld newidiadau sylfaenol i’n gwasanaethau carchardai a’r ffordd y caiff y gwasanaeth prawf ei reoli, bydd bron i hanner yr holl bobl a ryddhawyd o’r carchar yn mynd ymlaen i aildroseddu. Dydw i ddim eisiau byw fel 'na.

“Rwy’n teimlo dros yr holl deuluoedd sydd wedi gorfod dioddef fel fy un i, ac rwy’n pryderu o feddwl y bydd mwy o deuluoedd yn dioddef trasiedi bersonol yn nwylo rhywun ar brawf, yn yr arbrawf ofnadwy hwn aeth o’i le.

“Rydyn ni’n gwybod bod y system wedi torri a phe bai gan Gymru reolaeth, fe allen ni ei newid fel nad oes ganddom bellach y system doredig hon yn gysgod dros ein pennau.”