Pryderon fod pobl fregus dan yr argraff na fyddant yn derbyn gofal Covid-19

alex-boyd-6-H23dfH7Qo-unsplash.jpg

Dylai pobl hŷn a’r sawl sydd yn y dosbarth o fod â phroblemau iechyd blaenorol gael sicrwydd y byddant yn cael triniaeth feddygol gan y GIG, yn ôl AC Dwyrain De Cymru Delyth Jewell.

Daw ei neges yn dilyn sgyrsiau gydag etholwraig oedd yn meddwl na fyddai’n cael ei thrin petai’n cael ei tharo’n wael a’r coronafirws am ei bod mewn grŵp risg uchel.

Dywedodd yr etholwraig 78 oed (nad oedd eisiau cael ei henwi) wrth Delyth Jewell:

"Roeddwn i’n meddwl petawn i’n mynd i’r adran frys, mai dim ond pobl ifanc y bydden nhw’n eu trin. Mae’n gwneud i chi deimlo nad ydych chi mor bwysig â hynny. Roeddwn i’n meddwl, petaen i’n dal y firws, na fyddai neb yn gallu fy helpu."

Mae pryderon y gall pobl eraill ddod i’r un casgliad o ddarllen adroddiadau yn y wasg nad yw pobl dros 70 oed yn cael triniaethau all achub eu bywydau mewn gwledydd eraill, a bod meddygfa meddygon teulu ym Maesteg wedi anfon llythyrau ‘peidiwch â dadebru’ at gleifion gyda salwch difrifol.

Yn dilyn trafodaeth gyda BMA Cymru am y pwnc, mae’r Gymdeithas eisiau sicrhau cleifion y bydd y meddygon maent hwy yn gynrychioli yn darparu’r gofal angenrheidiol i unrhyw un sy’n mynd yn sâl.

Pwysleisiodd cynrychiolydd o’r BMA na all pawb sydd yn sâl angen triniaeth i achub bywydau ac wrth gwrs, gwaetha’r modd, nad oes modd achub pawb sy’n mynd yn wael.

Dywedodd AC Plaid Cymru Delyth Jewell:

“Dychrynais i glywed fod rhai o’m hetholwyr yn meddwl na fydd y GIG yn gofalu amdanynt petaent yn cael eu taro’n wael gyda Covid-19 am eu bod dros 70 oed neu fod ganddynt gyflwr meddygol blaenorol.

“Nid yw hyn yn wir; bydd staff anhygoel gweithdy’r  GIG yng Nghymru yn gwneud popeth yn eu gallu i roi triniaeth i achub bywyd unrhyw un sy’n wael.

“Er ei fod yn wir y dylai pobl sydd mewn mwyaf o risg gymryd rhagofalon ychwanegol i geisio peidio â mynd yn sâl, dyw hyn ddim yn golygu nad oes ganddynt hawl i ofal iechyd os byddant yn wael.

“Mae bywyd pawb yn werthfawr, does dim hierarchaeth mewn trugaredd - mae GIG Cymru yno i bawb sydd ei angen.”