Cymru yw'r genedl waethaf am ganslo trenau o ganlyniad i danariannu hanesyddol - AS Plaid
Mae ystadegau diweddar wedi datgelu mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o ganslo trenau o holl wledydd y DU.
Mae data a amlygwyd gan y BBC, gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, wedi dangos mai Cymru sydd â'r ganran uchaf o arosfannau rheilffordd a ganslwyd rhwng 18 Awst 2024 a 16 Awst 2025, sef 3.9%, o'i gymharu â 3.5% yn Lloegr a 2% yn yr Alban.
Mae'r ystadegau yn dangos bod gan 6 o'r 10 gorsaf reilffordd brysuraf yng Nghymru gyfradd ganslo uwch na chyfartaledd y DU. Yn yr Alban, nid oedd yr un o'r 10 gorsaf brysuraf yn y genedl yn uwch na chyfartaledd y DU.
Mae AS Plaid Cymru wedi priodoli'r gyfradd uchel hon o gansladau i danfuddsoddiad hanesyddol yn rheilffyrdd Cymru, dros 'ddegawdau o Lywodraethau'r DU, o dan Lafur a’r Ceidwadwyr’.
Mae sawl ffynhonnell wahanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'r DU, wedi cyfaddef fod tanfuddsoddiad o biliynau o bunnoedd wedi bod yn rheilffyrdd Cymru.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths, fod Cymru wedi cael ei thanfuddsoddi ynddo 'ers degawdau, heb hyd yn oed sôn am y £4biliwn o HS2'.
Aeth Mr Owen Griffiths ymlaen i ddweud na fyddai rheilffyrdd Cymru yn gweithredu mor effeithiol ag y mae pobl Cymru yn ei haeddu, nes bod pwerau dros seilwaith rheilffyrdd yn cael eu datganoli i Gymru.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths AS:
"Bydd yr ystadegau hyn yn siom, ond nid yn syndod i'r miloedd o bobl yng Nghymru sy'n dibynnu ar ein trenau yma yng Nghymru. Mae gan ormod ohonynt straeon am drenau wedi'u canslo a dyddiau wedi'u difetha.
"Dylai Llywodraeth y DU fod â chywilydd am gyflwr difrifol rheilffyrdd Cymru. Mae'r cysylltiad rhwng y biliynau o bunnoedd o danfuddsoddiad hanesyddol, y diffyg trydaneiddio yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, a'r gyfradd canslo uchel yn amlwg dros ben.
"Er gwaethaf yr effaith amlwg y mae tanfuddsoddiad Llywodraeth y DU yn seilwaith Cymru yn ei chael ar ein gwasanaethau rheilffyrdd, maen nhw'n parhau i wrthod y £4 biliwn sy'n ddyledus i ni o HS2, ac ni fyddant hyd yn oed yn dechrau dadwneud y difrod o danfuddsoddi yn y degawdau a fu.
"Mae'n rhaid datganoli'r pwerau dros seilwaith rheilffyrdd i Gymru - mae Llywodraeth y DU wedi dangos eu bod methu buddsoddi'n ddigonol yng Nghymru, ac mae'n bryd i ni gael y gallu i ni wneud hynny ein hunain.
"Mae Llywodraethau Torïaidd a Llafur wedi cadw'r sgandal hwn i fynd, gan brofi nad yw holl bleidiau San Steffan yn poeni am Gymru. Dim ond Plaid Cymru sydd o ddifrif am fuddsoddi mewn cymunedau Cymreig i wella'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl Cymru."