‘Gyda HS2 yn costio £100+ biliwn, dydy’r achos dros sicrhau bod rheilffyrdd Cymru yn nwylo Cymru erioed wedi bod yn gryfach’ - Plaid Cymru
Ann Davies AS i gyflwyno gwelliannau i'r Mesur Rheilffyrdd yn galw am ddatganoli a chyllid teg i Gymru
Mae llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, Ann Davies AS, wedi cyflwyno tri gwelliant i'r Mesur Rheilffyrdd yn galw am ddatganoli rheilffyrdd i Gymru ac i fynd i'r afael â than-ariannu hanesyddol o reilffyrdd Cymru.
Mae Mesur Rheilffyrdd Llywodraeth y DU yn cyrraedd ei gyfnod adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin yn hwyrach heddiw (dydd Mercher 10 Mehefin).
Mae Plaid Cymru wedi galw’n gyson am ddatganoli seilwaith rheilffyrdd i Gymru, yn unol â’r Alban a Gogledd Iwerddon. Dywedodd llefarydd trafnidiaeth y blaid yn San Steffan fod y cyhoeddiad diweddar y gallai HS2 gostio dros £100 biliwn yn golygu nad yw’r achos dros fwy o reolaeth dros system drafnidiaeth Cymru “erioed wedi bod yn gryfach”.
Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bwriad i fuddsoddi gwerth £14 biliwn yn rheilffyrdd Cymru. Fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw fanylion o ran ariannu’r prosiectau a gyhoeddwyd, a byddai angen neilltuo’r arian mewn adolygiadau gwariant llywodraeth y DU yn y dyfodol.
Cyflwynodd Ms Davies gwestiwn ysgrifenedig i'r Adran Drafnidiaeth i ofyn a oedd y cyllid hwn wedi'i warantu, ond yr hyn a dderbyniwyd oedd ateb yn ymwneud â'r ymrwymiad o £445 miliwn dros ddeng mlynedd a dim gwarantau o gyllid pellach. Gofynnodd Ms Davies hefyd am amserlen ar gyfer y cynllun buddsoddi £14 biliwn a'r ateb a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU oedd "cyn gynted â phosibl".
Mae gwelliannau Ann Davies AS yn galw am ddatganoli rheilffyrdd i Gymru yn ogystal â'r cyllid sy'n mynd law yn llaw ag ef. Mae hi hefyd wedi cyflwyno gwelliant i fynd i'r afael â than-gyllido hanesyddol rheilffyrdd Cymru. Ac yn olaf, mae hi wedi galw am strategaeth ar wella buddsoddiad mewn gwella rheilffyrdd mewn ardaloedd gwledig Cymru.
Dywedodd Ms Davies fod Llywodraeth newydd Plaid Cymru wedi “mynd ati’n syth” ar y mater hwn ar ôl i’r Gweinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper, ysgrifennu at Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Heidi Alexander, yr wythnos diwethaf yn gofyn am drafodaethau i fynnu gwell cyllid rheilffyrdd i Gymru.
Wrth siarad cyn y ddadl, dywedodd llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, Ann Davies AS:
“Mae cyflwr presennol rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn gwbl annerbyniol ac yn adlewyrchu degawdau o danfuddsoddi ac annhegwch strwythurol sy’n parhau i ddal ein cymunedau yn ôl. Mae Llywodraethau olynol y DU wedi esgeuluso anghenion Cymru, ac am yn rhy hir o lawr, roedd gennym Lywodraeth Lafur yng Nghymru a fethodd â gweithredu gyda’r brys oedd ei angen i fynnu’r tegwch y mae Cymru’n ei haeddu. Ond mae’n bryd i bethau newid.
“Mae Plaid Cymru wedi dadlau’n gyson y dylai rheilffyrdd Cymru fod yn nwylo Cymru, gyda’r pwerau a’r cyllid sydd eu hangen i adeiladu system drafnidiaeth sy’n gweithio i Gymru gyfan. Byddai hefyd yn helpu i fynd i’r afael ag annhegwch prosiectau fel HS2, Northern Powerhouse Rail a llinell Rhydychen-Caergrawnt, sydd i gyd yn brosiectau Lloegr yn unig, ond sy’n cael eu hariannu’n rhannol gan drethdalwyr Cymru er nad ydyn nhw’n cynnig fawr ddim o fudd uniongyrchol i Gymru, os o gwbl. Gyda disgwyl i gost HS2 godi i dros £100 biliwn, dydy’r achos dros setliad ariannu teg a mwy o reolaeth dros system drafnidiaeth Cymru erioed wedi bod yn gryfach.
“Fis diwethaf, etholodd pobl Cymru Lywodraeth Plaid Cymru gyda mandad clir i sicrhau bod rheilffyrdd yn cael eu datganoli. Rydw i’n falch iawn o weld bod Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi mynd ati’n syth ac wedi gofyn am gyfarfod gyda Llywodraeth y DU i weithio’n adeiladol ar y gofynion hyn. Ni all ein cymunedau fforddio colli allan ar fuddsoddiad pellach. Rydyn ni wedi gwneud yr achos, mae gennym y mandad, a does dim amser i’w wastraffu i sicrhau bod Cymru’n derbyn y tegwch rydyn ni’n ei haeddu.”