Mae Plaid Cymru yn barod i "ddisodli" Llafur, gan addo "llywodraeth newydd, gydag egni newydd a syniadau newydd" – dyna fydd neges yr arweinydd Rhun ap Iorwerth AS wrth gynulleidfa’r Gynhadledd yn Abertawe heddiw.

Wrth annerch aelodau a chefnogwyr yng Nghynhadledd Flynyddol Plaid Cymru gyda'r blaid yn arwain y polau cyn Etholiad y Senedd fis Mai nesaf, bydd Rhun ap Iorwerth yn annog pobl yng Nghymru i "ddod hefo ni", gan ddweud "Gyda'n gilydd, gallwn ddewis llwybr gwahanol – un lle rydyn ni'n torchi ein llewys i gyflawni ein potensial, nid un lle rydyn ni'n setlo am yr hyn sydd gennym."

Mewn araith fydd yn datgelu mwy o fanylion am raglen uchelgeisiol Plaid Cymru mewn llywodraeth ac wrth siarad o'r prif lwyfan brynhawn Gwener, mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth AS ddweud:

"Heddiw, gyda chyfle hanesyddol i adeiladu cenedl o'n blaenau, rydw i'n mynd i amlinellu'r dewis sy'n wynebu Cymru – dau ddyfodol gwahanol iawn ond dim ond un opsiwn credadwy.

Mae newid seismig yn ein gwleidyddiaeth o'n blaenau. Mae newid nawr yn ymddangos yn anochel ac wrth gwrs mae'n hir ddisgwyliedig.

“Felly i bobl Cymru dwi’n dweud 'dewch hefo ni'.

“Gyda'n gilydd, gallwn ddewis llwybr gwahanol – un lle rydyn ni'n torchi ein llewys i gyflawni ein potensial, nid un lle rydyn ni'n setlo am yr hyn sydd gennym.

Bydd Rhun ap Iorwerth yn amlinellu sut mae Plaid Cymru yn barod i arwain Cymru a disodli Llafur fel y blaid sy’n arwain y llywodraeth:

Gadewch i ni fod yn glir. Dydyn ni ddim yma i weithredu fel cydwybod Llafur. Dydyn ni ddim yma i adfer Llafur. Rydyn ni yma i'w disodli.

“Rydym yn addo llywodraeth newydd, gydag egni newydd a syniadau newydd i brofi'r hyn y mae pob person sy'n credu yng Nghymru eisoes yn ei wybod – nad oes rhaid i bethau fod fel hyn.

“Mae Plaid Cymru yn credu'n ddwfn yn ein potensial fel cenedl.  Rydyn ni'n dweud 'Gall Cymru' - ac rydyn ni eisiau dangos i chi sut.

“Bydd Arweinydd y Blaid hefyd yn apelio at y rhai nad ydynt erioed wedi pleidleisio dros ei blaid o'r blaen i wneud hynny fis Mai nesaf er mwyn "creu cynghreiriau newydd yn enw dyfodol mwy disglair" ac i "roi i Gymru yr arweinyddiaeth sydd ei angen arni a’r parch y mae’n ei haeddu”:

"Felly os nad ydych wedi pleidleisio dros Blaid Cymru o'r blaen, dyma’r amser.

“Dyma’r amser i stopio Reform ac i ethol llywodraeth sy’n fwy radical, yn fwy uchelgeisiol, ac yn ysu am wireddu newid positif yn fwy nag unrhyw lywodraeth aeth o’i blaen. Llywodraeth o gynnydd ac o werthoedd blaengar.

“Llywodraeth sydd ar ochr teuluoedd, athrawon, nyrsys, ffermwyr, perchnogion busnes.

“Hen ac ifanc. Trefol a gwledig. O’r gogledd a'r de. Siaradwr Cymraeg a’r di-Gymraeg.

“Cefnogwr gydol oes a phleidleisiwr tro cyntaf. Dyma’r amser i greu cynghreiriau newydd yn enw dyfodol mwy disglair.

“Gyda'ch cefnogaeth, gallwn roi i Gymru yr arweinyddiaeth sydd ei angen arni a'r parch y mae'n ei haeddu.”