Liz Saville Roberts yn annog pleidleiswyr i wrthod 'gwleidyddiaeth Trumpaidd' Reform UK a chefnogi Plaid Cymru yn etholiad mis Mai

Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, heddiw (dydd Mercher 8 Ebrill) wedi rhybuddio bod rhyfel Iran yn ei gwneud hi’n amlwg pam na ellir ymddiried yn Reform UK â phŵer yng Nghymru.
Atgoffodd hi bleidleiswyr Cymru fod arweinyddiaeth Reform UK wedi bod yn “frwd iawn” o blaid rhyfel anghyfreithlon Trump cyn iddo ddod yn “wleidyddol gyfleus” i wneud tro pedol.
Dangosodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, ei gefnogaeth i waethygu’r gwrthdaro yn gynnar yn y rhyfel, gan ddweud mewn cynhadledd i’r wasg yn Llundain: “Mae angen tynnu’r menig i ffwrdd. Mae angen i ni dderbyn ein bod yn rhan o hyn gyda’r Americanwyr”.
Aeth y dirprwy arweinydd Richard Tice ymhellach, gan ddatgan mewn cyfweliad: “Byddem yn helpu’r Americanwyr a’r Israeliaid mewn unrhyw ffordd y gwelent yn briodol. Pe bai ceisiadau wedi’u gwneud, byddem wedi dweud ‘ydyn, rydym yn falch o helpu’.”
Gyda'r polau piniwn yn dangos ei bod hi'n agos rhwng Plaid Cymru a Reform UK yng Nghymru, anogodd Ms Saville Roberts bleidleiswyr i wrthod yr hyn a ddisgrifiodd fel "gwleidyddiaeth Trumpaidd" Reform UK ac yn lle hynny gefnogi Plaid Cymru fel y dewis arall egwyddorol ac aeddfed.
Liz Saville Roberts AS:
"Fe wnaethon ni i gyd ddeffro yn llawn rhyddhad y bore yma i weld nad oedd bygythiadau apocalyptaidd Trump, diolch byth, wedi dod yn wir. Gobeithiwn y bydd y cadoediad yn paratoi'r ffordd ar gyfer heddwch parhaol. Mae'r rhyfel hwn eisoes wedi bod yn ergyd poenus i gostau byw pobl ac wedi cymryd gormod o fywydau yn y rhanbarth.
 
"Mae'r rhyfel yn ein hatgoffa na ellir ymddiried yn Reform UK. Mae arweinyddiaeth y blaid wedi glynnu wrth Trump ers blynyddoedd ac roeddent yn frwd iawn o blaid y rhyfel anghyfreithlon hwn cyn iddo ddod yn wleidyddol gyfleus i wneud tro pedol ar y cyfan.
 
“Mae gwleidyddiaeth Reform UK yn gwbwl anghyfrifol. Byddai costau byw pobl wedi cael eu heffeithio hyd yn oed yn fwy difrifol pe bai Nigel Farage wedi cael ei ffordd. Mae eu rhethreg yn dangos na all pobl Cymru ymddiried ynddyn nhw pan ddaw i wneud penderfyniadau pwysig.
 
“Mae’r polau piniwn yn glir mai dim ond dwy blaid all arwain Llywodraeth nesaf Cymru – Plaid Cymru neu Reform UK. Y dewis i bleidleiswyr yw naill ai mentro ar hyd llwybr o ansefydlogrwydd Trumpaidd gyda Reform UK neu lywodraeth aeddfed, gyfrifol gyda Phlaid Cymru, gyda Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog.”