Nid yw’r ffrae o amgylch ail-agor ysgolion yng Nghymru yn deg ar ddisgyblion na staff meddai gweinidog addysg cysgodol Plaid Cymru Sian Gwenllian.

Dywedodd Llywodraeth Cymru heddiw y byddai ysgolion a cynghorau yn cael y gair olaf ar ymestyn tymor yr haf am wythnos arall gyda trafodaethau yn parhau rhwng y Llywodraeth, undebau a chynghorau.

Ond mae’n debyg fod y gofyniad i agor am bedair wythnos wedi newid i dair.

Dywedodd Sian Gwenllian fod hyn yn creu “dryswch llwyr” – yn enwedig i’r plant a’r staff oedd wedi eu dal yng nghanol y ffrae.

Meddai gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros addysg, Sian Gwenllian AS,

“Rhaid canmol pennaethiaid a staff ein hysgolion am fynd ati yn drefnus a gofalus i gynllunio ar gyfer ail-agor yr ysgolion o ddiwedd Mehefin 29 ymlaen.

“Gofyniad y Gweinidog Addysg oedd bod yr ysgolion ar agor am 4 wythnos ac yn rhoi cyfle i bob disgybl fynychu yr ysgol. Mae hyn yn golygu creu amserlenni a rotas staff cymhleth yn ogystal a sicrhau fod yr holl fesurau diogelwch mewn lle.

“Bellach mae'r gofyniad wedi newid. Gyda dim ond ychydig dros wythnos i fynd, mae'n ymddangos mai dim ond am 3 wythnos y bydd yr ysgolion ar agor wedi'r cyfan. 

“Mae hyn yn creu dryswch llwyr i bawb - yn enwedig i'r plant a'r bobol ifanc sydd yn cael eu dal yng nghanol y ffrae. 

“Beth bynnag yw'r rheswm am y newid mae'n hollol glir nad ydy hyn yn deg ar yr ysgolion na'r staff. 

“Yn sicr nid yw'n llesol nac yn deg i'r disgyblion - lle mae eu hangehion nhw yng nghanol y ffrae hon?