Bydd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS heddiw yn gosod allan gynlluniau i ddileu bwrdd iechyd methiannus Betsi Cadwaladr a fu mewn mesurau arbennig ers dros 5 blynedd

Bydd Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru heddiw (Dydd Iau 1 Hydref) yn gosod allan yn ei araith yn ystod rhith-gynhadledd Plaid Cymru gynlluniau i roi corff arall yn lle Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Yn ei araith, bydd Mr ap Iorwerth yn rhoi manylion am y modd y bydd llywodraeth Plaid Cymru  yn ymdrin â chyfres o bryderon sy’n deillio o gamreolaeth Llafur o’r GIG.

Bydd Mr ap Iorwerth yn disgrifio’r angen am “dirwedd gofal iechyd a gofal newydd yn y gogledd”, gan ddisgrifio’r system bresennol fel un rhy fawr a thrwsgl, gyda safonau yn dioddef o ganlyniad o “agenda o ganoli”.

Materion eraill a godir yn yr araith fydd diffyg buddsoddiad ac o ganlyniad i hynny, diffyg gwytnwch yn y GIG, diffyg parodrwydd ar gyfer y pandemig, a’r methiant i sefydlu system brofi gadarn yng Nghymru, a gorddibyniaeth ar gynllun i’r DG yn gyffredinol.

Bydd Mr ap Iorwerth hefyd yn ail-adrodd cynlluniau i sefydlu system Iechyd a Gofal gyfun fydd yn darparu gofal cymdeithasol am ddim ar y pwynt lle mae ei angen.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth AS,

“Yn y gogledd, mae’r boblogaeth wedi dioddef dros bum mlynedd o Fwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig. Ers pum mlynedd, mae’r Llywodraeth wedi methu â mynd i’r afael â rhedeg y bwrdd iechyd. Digon yw digon, meddaf i. Er lles y staff a’r cleifion, mae’n amser cael tirwedd iechyd a gofal newydd yn y gogledd.        

“Nid ystyried  bod yn llywydd dros ad-drefnu ym maes iechyd yr ydw i, ond dyma un y mae’n hen bryd ei gael Mae’n rhaid i Betsi Cadwaladr fynd, a buaswn i’n ail-gyflunio’r gwasanaethau hynny yn y gogledd fel Gweinidog Iechyd.

“Ac er nad yw ad-drefnu ynddo’i hun fyth yn ddigon i ddatrys problemau, gallwn ni yn y gogledd yn awr ddatblygu model newydd  - model fydd yn cyflwyno i gleifion o Wrecsam i Aberdaron, arweinydd newydd i ddarparu gofal iechyd dwyieithog yn y gogledd-orllewin, model o gyflwyno iechyd mewn ardaloedd gwledig, ac integreiddio iechyd a gofal yng ngwir ystyr y gair.

“Petaem yn cael ein hethol y flwyddyn nesaf, bydd Plaid Cymru yn sefydlu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol newydd i Gymru. Bydd hwn yn wasanaeth newydd diwnïad gyda mwy o bwyslais ar ymyriad cynnar ac iechyd ataliol, ar hyrwyddo annibyniaeth pobl, sydd yn trin staff iechyd a gofal yn gyfartal o ran tâl ac amodau, gyda Gofal Iechyd yn cael ei ddarparu am ddim ar y pwynt lle mae ei angen - gan orffen y gwaith a gychwynnwyd gan Aneurin Bevan flynyddoedd yn ôl.